Undeb Rygbi Cymru yn chwilio am brynwr i Rygbi Caerdydd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwahodd buddsoddwyr i ddangos diddordeb mewn prynu Rygbi Caerdydd.
Mae’r undeb wedi gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn y clwb i roi gwybod iddyn nhw erbyn diwedd y dydd ar 6 Mehefin 2025.
Bu’n rhaid i Undeb Rygbi Cymru gymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill.
Ond dywedodd yr undeb y byddai yn “well ganddyn nhw” os oedd pob clwb proffesiynol yng Nghymru mewn dwylo annibynnol.
Mae gan y clwb ddyledion o tua £6 miliwn i Undeb Rygbi Cymru (i'w ad-dalu erbyn 2029) ac wedi addo talu £500,000 i eraill.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, fod yna “gyfle cyffrous” i fuddsoddwyr “fod yn rhan o un o frandiau mwyaf adnabyddus rygbi ledled y byd”.
“Mae Rygbi Caerdydd yn rhan bwysig o rygbi Cymru gydag etifeddiaeth falch a sylfaen gefnogwyr angerddol,” meddai.
“Roedd colli hanes o’r fath o’n prifddinas wedi bod yn amhosib ei ystyried.
“Mae’r clwb wedi ymrwymo i Gytundeb Rygbi Proffesiynol newydd (PRA25) gyda chyllid wedi ei warantu dros y pum mlynedd nesaf.
“Ond mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau dyfodol bywiog a chynaliadwy i Gaerdydd ac rydym yn chwilio am fuddsoddiad allanol i wneud hyn.”
Llun: Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney.