Cau strydoedd yn Nhywyn am fisoedd eto oherwydd cyflwr gwesty
Mae’n bosib y bydd ffyrdd yn Nhywyn yng Ngwynedd ar gau i gerbydau tan fis Tachwedd 2025 oherwydd pryderon am gyflwr gwesty yno.
Mae cyflwr adeilad rhestredig Gradd II Gwesty’r Corbett Arms yn Nhywyn yn “parhau i fod yn bryder difrifol” yn ôl Cyngor Gwynedd.
Ar un adeg roedd y gwesty’n croesawu gwesteion gan gynnwys y cyn-Beatle John Lennon ac Yoko Ono, ond mae’r safle bellach mewn cyflwr gwael.
Mae disgwyl i gais am ganiatâd i ddymchwel y gwesty gael ei gyflwyno yn y dyddiau nesaf.
Fe gafodd Stryd Maengwyn, Sgwâr Corbett a Stryd y Llew Coch o amgylch yr adeilad eu cau dros dro i draffig ar 17 Ebrill i osod y sgaffaldiau er mwyn diogelwch trigolion a busnesau cyfagos a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi “cymryd y cam anodd” o ymestyn cyfnod cau'r ffyrdd i draffig am gyfnod o chwe mis.
Ar gau i gerbydau mae rhan o Stryd Maengwyn (A493), Tywyn o bwynt ger ei gyffordd gyda Brook Street, gan deithio mewn cyfeiriad gorllewinol hyd at bwynt ger Corbett Square (A493), Tywyn ynghyd a Stryd y Llew Coch.
“Mae angen hyn er mwyn caniatáu amser i benderfynu'r cais am Ganiatâd Adeiladu Rhestredig a fydd yn cael ei gyflwyno yn fuan gan y Cyngor, i'w benderfynu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi'r effaith ar drigolion a busnesau lleol ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond mae'n ofynnol cau'r ffyrdd dros dro i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”
Ychwanegodd y bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor os bydd y gwaith gofynnol ar adeilad Corbett Arms wedi’i gwblhau cyn canol mis Tachwedd, 2025.
Bu'n rhaid cau ffordd y rhannol a dechrau monitro cyflwr yr adeilad ym mis Ionawr eleni ar ôl "cwymp sylweddol" yng nghefn yr adeilad.
Fe syrthiodd to ystafell ddawns yr adeilad ym mis Chwefror.
Fe wnaeth y cyngor ymgynull grŵp prosiect gydag ystod o arbenigedd i reoli a gweithredu ymateb i’r mater, medden nhw.
Mae gwaith paratoi ar y safle ar gyfer peiriannau arbenigol hefyd wedi ei wneud rhag ofn y bydd angen gwaith brys pellach ar yr adeilad.