Cadarnhad gan yr heddlu mai corff bachgen 16 oed gafodd ei ddarganfod yn Llandudno
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff y bachgen 16 oed oedd ar goll gafodd ei ddarganfod nos Fercher.
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd llefarydd fod teulu'r bachgen, o'r enw Athrun, wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion.
"Rydym yn gweithio ar y cyd â'r crwner lleol i gynorthwyo gyda'u hymholiadau" meddai'r llefarydd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan: “Mae ein meddyliau gyda theulu Athrun, sy’n dymuno diolch i’r holl asiantaethau ac aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth aruthrol gyda’r chwilio, ac am beidio â rhoi’r gorau i’w adferiad.”
Ychwanegodd: “Nid dyma’r canlyniad roedd unrhyw un yn gobeithio amdano, ond rydyn ni’n gobeithio y gall hyn nawr roi rhai atebion i deulu Athrun.
“Rwy’n parhau i ofyn am i’w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser hynod anodd hwn.”