Newyddion S4C

Cyhuddo dyn yn dilyn tanau mewn dau dŷ sy'n gysylltiedig â Syr Keir Starmer

tan syr keir

Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd ar ôl i ddau dŷ sy’n gysylltiedig â’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer gael eu difrodi.

Yn ystod oriau mân fore Llun, fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yn y cartref yn Kentish Town lle'r oedd Syr Keir Starmer yn byw cyn iddo symud i Rif 10 Downing Street. 

Fe gafodd difrod ei wneud i fynedfa'r cartref ond ni chafodd neb eu hanafu. 

Fe gafodd car oedd yn gysylltiedig â Syr Keir hefyd ei roi ar dân yn ystod oriau mân 8 Mai ar yr un stryd. 

Ychydig ar ôl 03.00 ddydd Sul, cafodd Brigâd Dân Llundain ei alw i dân wrth fynedfa tŷ.

Mae'r tŷ yn Islington, a gafodd ei drawsnewid yn fflatiau, hefyd yn gysylltiedig â Syr Keir.

Mae Roman Lavrynovych, 21, dinesydd o Wcráin sy'n byw yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain, wedi cael ei gyhuddo o dri chyhuddiad o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd. 

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.