Newyddion S4C

Ysgolion cynradd Cymru i gynnig prydau iachach i ddisgyblion

Prydau bwys ysgolion

Bydd mwy o ffrwythau a llysiau ar fwydlenni ysgolion cynradd Cymru yn y dyfodol, wrth i'r llywodraeth anelu at gynnig dewisiadau iachach i ddisgyblion.

Bwriad y camau newydd yw cynyddu'r nifer o ffrwythau a llysiau sy'n cael eu cynnig mewn prydau disgyblion.

Ar hyn o bryd mae un o bob pedwar o blant oedran dosbarth derbyn dros eu pwysau neu'n ordew.

Bydd cyfle i rieni ac athrawon gymryd rhan mewn ymgynghoriad sy'n edrych ar y cynigion i wella safon y bwyd fydd yn cael ei gynnig.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn edrych ar gyfyngu ar fwydydd nad ydyn nhw'n iach, gan gynnwys bwydydd wedi'u ffrio a phwdinau llawn siwgr.

Dywedodd y llywodraeth y bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod plant yn cael cynnig bwyd a diod sy'n "gytbwys o ran maeth".

Maen nhw hefyd yn gobeithio hyrwyddo bwyta'n iach mewn ysgolion, gyda'r nod o wella iechyd, lles a chyrhaeddiad plant.  

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae plant ar gyfartaledd yn bwyta gormod o siwgr a ddim yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau.

'Maeth da yn hanfodol'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, y byddai'r cynigion newydd yn "helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd" i ddisgyblion.

"Mae maeth da yn hanfodol i helpu pobl ifanc i berfformio ar eu gorau – boed yn yr ystafell ddosbarth, ar y cae, neu wrth fynd ar drywydd eu nodau," meddai.

"Bydd ein newidiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reolau bwyd ysgolion yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru – ac ar yr un pryd yn cefnogi cynhyrchwyr o Gymru ac yn meithrin cenhedlaeth o unigolion sy'n bwyta'n iach i ddiogelu dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol."

Fe aeth ymlaen i alw ar bobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

"Dyna pam dw i eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc," meddai. 

"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu safonau bwyd i ysgolion sy'n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol."

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 10 wythnos.

Nid yw'r Rheoliad Bwyta'n Iach mewn Ysgolion wedi'i ddiweddaru yng Nghymru ers 2013.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.