Meddyg wedi rhoi gwybodaeth 'anghywir' am ferch ifanc a fu farw o sepsis
Fe wnaeth meddyg roi gwybodaeth "anghywir a chamarweiniol" am gyflwr merch 13 oed ddyddiau cyn iddi farw o sepsis ar ôl disgyn o feic tra ar wyliau yng Nghymru.
Clywodd tribiwnlys meddygol bod Martha Mills wedi cael ei chyfeirio i uned gofal dwys plant yn Ysbyty King's College Llundain yn "llawer rhy hwyr."
Dywedodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol bod arbenigwr ar yr afu yn yr ysbyty, Yr Athro Richard Thompson wedi disgrifio cyflwr Martha Mills fel un "sefydlog."
Hefyd dywedodd y doctor wrth gydweithiwr y byddai unrhyw adolygiad gan weithwyr yr uned ofal dwys yn gallu achosi "mwy o bryder" i rieni Martha.
Mae'r meddyg yn ymddangos o flaen tribiwnlys meddygol wedi ei gyhuddo o nifer o fethiannau yn ei ofal o Martha ar 29 Awst 2021.
Fis cyn ei marwolaeth roedd Martha wedi dioddef anaf i'w phancreas wedi iddi ddisgyn oddi ar feic tra ar wyliau yng Nghymru.
Cafodd ei chludo i Ysbyty King's College yn Llundain, un o dri lleoliad yn y DU sydd yn arbenigo mewn triniaeth i blant ag anafiadau pancreatig.
'Gwaethygu'
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud bod y feirniadaeth o'r Athro Thompson yn benodol am y modd yr oedd wedi trin sepsis Martha.
Ychydig ddyddiau cynt roedd y ferch yn ei harddegau wedi dechrau profi twymynau ac roedd ei chyfradd curiad y galon wedi dechrau cynyddu.
Erbyn i'r doctor ei gweld yn y bore ar 29 Awst 2021 roedd ei phwysau gwaed yn isel.
Cafodd y doctor ei alw o'i gartref yn hwyrach y diwrnod hwnnw gan aelod o staff oedd yn dweud wrtho fod gan Martha frech dros ei chorff a bod hynny'n annhebygol o gael ei achosi gan sepsis, ond gan y cyffuriau yr roedd yn ei derbyn.
Oriau wedyn fe wnaeth Mr Thompson ffonio cydweithiwr ar yr uned gofal dwys plant ond ni soniodd am y frech, meddai'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC).
Dywedodd Christopher Rose o'r CMC bod crynodeb y doctor yn "anghywir, ddim y wybodaeth ddiweddar ac yn gamarweiniol, gan roi'r awgrym bod Martha yn sefydlog a dim angen adolygiad.
"Wrth gwrs, doedd Martha ddim yn sefydlog. Roedd hi wedi bod yn gwaethygu yn ystod y dydd.
"Erbyn iddi ddatblygu'r frech, dylai'r doctor wedi gwneud adolygiad o Martha ei hun.
"Ni chafodd adolygiad ei gynnal tan y diwrnod canlynol, ac erbyn hynny roedd yn rhy hwyr."
Fe wnaeth Martha gwympo ar 30 Awst a chafodd ei chludo i Ysbyty Great Ormond, ond bu farw yn oriau mân y bore ar 31 Awst.
Mae'r Athro Thompson yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae'r achos ym Manceinion yn parhau.
Mewn cwest i’w marwolaeth yn 2022, dyfarnodd crwner y byddai Martha yn fwy tebygol o fod wedi goroesi pe bai meddygon wedi nodi’r newid yn ei chyflwr a’i throsglwyddo i ofal dwys yn gynharach.
Dywedodd mam Martha, Merope Mills, ei bod hi a’i gŵr, Paul Laity, wedi codi pryderon am iechyd Martha nifer o weithiau ond nid oedd doctoriaid wedi gweithredu.