Newyddion S4C

Cyhuddo ail ddyn o gynnau tân mewn eiddo sy'n gysylltiedig â Keir Starmer

tan starmer.jpg

Mae dyn arall wedi ei gyhuddo o losgi yn fwriadol mewn cysylltiad â thanau mewn dau dŷ a char sy’n gysylltiedig â Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.

Mae Stanislav Carpiuc, sy’n 26 oed, wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol er mwyn peryglu bywyd meddai Heddlu’r Met.

Mae’n hanu o Romania ond yn byw yn Romford.

Y cyhuddiad yw ei fod wedi cynllwynio gyda Roman Lavrynovych o Wcráin ac eraill sy'n anhysbys "i ddifrodi eiddo rhywun arall trwy dân, gyda’r bwriad o ddifrodi’r eiddo, peryglu bywyd rhywun arall neu fod yn ddiofal ynglŷn ag os byddai bywyd rhywun arall mewn perygl”.

Fe wnaeth Lavrynovych, sy'n 21 oed ymddangos, o flaen llys wythnos diwethaf ar dri chyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol ac mae disgwyl iddo ymddangos eto yn Llys yr Old Bailey ddechrau Mehefin.

Cafodd Carpiuc ei arestio ym maes awyr Luton ddydd Sul. 

Yn ystod oriau mân fore Llun 12 Mai, fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yn y cartref yn Kentish Town, Llundain lle'r oedd Syr Keir Starmer yn byw cyn iddo symud i Rif 10 Downing Street. 

Roedd difrod i fynedfa'r cartref ond chafodd neb ei anafu. 

Fe gafodd car oedd yn gysylltiedig â Syr Keir hefyd ei roi ar dân yn honedig yn ystod oriau mân 8 Mai ar yr un stryd. 

Ychydig ar ôl 03.00 ar 13 Mai, cafodd Brigâd Dân Llundain ei galw i dân wrth fynedfa tŷ arall yn Llundain.

Mae trydydd dyn 34 oed wedi ei arestio yn Chelsea, de-orllewin Llundain, ddydd Llun ar amheuaeth o losgi yn fwriadol. 

Mae'n parhau yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.