
Mis Ymwybyddiaeth Coeliag: Annog pobl i fynd am brofion
Mis Ymwybyddiaeth Coeliag: Annog pobl i fynd am brofion
Mae pobl sy’n dioddef o symptomau clefyd Coeliag eu hannog i fynd am brawf.
Mae yna amcangyfrif mai dim ond 35% o bobl sydd â chlefyd Coeliag (Coeliac Disease) wedi cael diagnosis meddygol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Fe fyddai hynny’n golygu bod 20,000 o bobl yn y wlad yn profi symptomau nad oes gyda nhw esboniad ar eu cyfer yn aml yn llethol.
Mae clefyd Coeliag yn gyflwr hunanimiwn difrifol sy'n effeithio ar un o bob 100 o bobl yn y DU.
Pan fydd rhywun â chlefyd coeliag yn bwyta glwten - protein a geir mewn gwenith, haidd a rhyg - mae eu corff yn ymosod ar ei feinweoedd ei hun.
Gall hynny achosi niwed i'r perfedd ac arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol os na chaiff ei drin. Yr unig driniaeth yw diet gydol oes, llym, heb glwten.
Cafodd Ela Pari Huws ddiagnosis o’r clefyd Coeliag ddeng mlynedd yn ôl, yn ystod ei thymor cyntaf yn y Brifysgol.
“O'n i efo dim egni o gwbl, ac o'n i'n syrthio i gysgu trwy'r amser, yn enwedig ar ôl cinio digwydd bod, ag o'n i mewn neuadd lle'r oedd bwyd yn cael ei ddarparu,” meddai.
“Felly bob amser cinio dwi'n cofio mynd, ac wedyn byswn i ddim yn gallu mynd i ddarlithoedd yn y prynhawn yn aml, achos bo' fi 'di blino. Ac oedd o ddim fel fi o gwbl.
“Y peth arall oedd problemau stumog. Oedd 'na ddim patrwm ond oedd o jyst ddim yn iawn.
“Dwi'm yn cofio amser lle do'n i ddim yn teimlo bo' 'na rywbeth yn bod efo'n stumog, a'r peth arall o'n i'n cael ulcers yn fy ngheg.
“Ac roedden nhw'n dod nôl trwy'r amser, ac erbyn hyn dwi'n gwybod hwnna'n un o'r prif symptomau hefyd.”

‘Gwych’
Ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Coeliag eleni (1af-31ain o Fai), mae’r elusen Coeliac UK yn annog y cyhoedd i ofyn, ‘Ai clefyd Coeliag yw hwn?’ a chymryd hunanasesiad ar-lein am ddim.
Gall pobl wirio a ydyn nhw yn profi symptomau sy'n gysylltiedig â chlefyd coeliag.
Bydd y prawf hefyd yn eu hargymell neu a ddylid neu yn dweud y dylen nhw ystyried profi am y cyflwr yn seiliedig ar ganllawiau clinigol cyhoeddedig.
Mae Dr Ieuan Davies, sydd yn Ymgynghorydd Gastroenteroleg Pediatrig yn Ne a Gorllewin Cymru, yn cymeradwyo’r ymgyrch.
“Mae Coeliac UK i fi yn charity wych, maen nhw’n helpu’r cleifion sydd yn gwybod am Coeliac Disease yn barod, a hefyd fi'n credu mai'r peth gyda'r self-assessment tool yma yn syniad gwych,” meddai.
Mae ymgyrch y mis yma yn edrych ar godi ymwybyddiaeth o glefyd coeliag trwy rannu straeon go iawn a grymuso'r rhai sy’n cael eu heffeithio i adnabod symptomau, cwblhau ei hunanasesiad ar-lein, a chymryd y cam cyntaf ar y ffordd i adferiad.
Ond mae'n bwysig peidio â thynnu glwten o'r diet nes ei fod wedi'i brofi, gan fod hyn yn peryglu canlyniad negyddol ffug posibl, medden nhw.
I Ela, roedd hi’n werth parhau â’r deiet er mwyn sicrhau diagnosis.
“Mae pobl yn aml yn deud, ‘O, mae'n siŵr bod o'n boen bo' ti ddim yn gallu byta glwten’, ac wrth gwrs mae'n gallu bod yn rhwystredig,” meddai.
“Ond ar ddiwedd y dydd, dwi'n rili ffodus achos os na fyswn i'n gwybod, fyswn i ddim yn gwybod sut i stopio'r symptomau.
“Ac mae dilyn y deiet yn golygu bo' fi ddim yn sâl! Felly mae'n eitha' syml rili o ran ateb.”
Er mwyn cymryd yr hunan-asesiad, ewch i: https://isitcoeliacdisease.org.uk/
Am ragor o wybodaeth am Fis Ymwybyddiaeth Coeliag, ewch i: https://www.coeliac.org.uk/awareness-month-2025/