Powys: Teyrnged i dad-cu 'cariadus' ar ôl gwrthdrawiad
Mae teulu tad-cu “gonest” oedd wedi “ymrwymo” i’w deulu wedi rhoi teyrnged iddo ar ôl iddo farw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhowys.
Bu farw Malcom John Shopland, 72 oed o Ystradgynlais, ar ôl y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4221 ger Coelbren am 15.15 ddydd Iau, 15 Mai.
Roedd yn seiclo ar ei feic pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda cherbyd.
Roedd yn ŵr "ymrwymedig" i’w wraig, Eleanor, am dros 50 mlynedd, meddai'r deyrnged. Roedd yn dad "balch" i Wendy a Mark, yn dad yng nghyfraith i Lisa ac yn dad-cu "cariadus" i Jordan a Caitlin.
Werth roi teyrnged iddo, fe ddisgrifiodd ei deulu ef fel dyn “gonest a gweithgar” oedd yn ymrwymedig i’w deulu “a’r hyn roedd yn ei garu".
Roedd yn hoff iawn o’i feic modur ac roedd yn caru “pethau syml” fel garddio, gwrando ar gerddoriaeth a mynd am dro gyda chi ei fab, Jake.
“Roedd ei gryfder tawel a'i hiwmor ysgafn yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth a chynhesrwydd i'r rheini oedd o'i gwmpas.
“Mae ei ymadawiad sydyn wedi gadael gwagle nad oes modd ei lenwi.”
Dywedodd teulu Mr Shopland eu bod yn gofyn am breifatrwydd i ddelio gyda’u colled a’u bod yn ddiolchgar am yr holl ddymuniadau o gefnogaeth y maen nhw wedi eu derbyn.
Maen nhw hefyd wedi diolch Heddlu Dyfed-Powys a’r gwasanaethau brys am eu cefnogaeth.
Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un all fod â delweddau CCTV neu dashcam all fod o gymorth gyda’u hymchwiliad.