Nifer y bobl anabl yng Nghymru mewn tlodi i gynyddu 'heb newidiadau i fudd-daliadau'
Bydd nifer y bobl anabl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn cynyddu heb ailystyried newidiadau i fudd-daliadau anabledd, yn ôl rhybudd gan un sefydliad Cymreig.
Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan yn awgrymu y bydd bron i 200,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y newidiadau i fudd-daliadau gan Lywodraeth y DU.
O dan y newidiadau newydd fe fydd toriadau i daliadau annibyniaeth bersonol (PIP) sef y prif fudd-dal anabledd, drwy wneud newidiadau i feini prawf cymhwyster ac asesiadau.
Hefyd fe fydd credyd cynhwysol yn cael ei dorri 50% dan y cynlluniau posib.
Ers cyhoeddiad Llywodraeth y DU mae pryder y gallai mwy o bobl fyw mewn tlodi wrth iddyn nhw golli incwm.
'Anfoesol anghywir'
Yn ei 20au bu bron i AS y Demorctaiaid Rhyddfrydol, David Chadwick, a marw mewn damwain car ac roedd ganddo gyflwr parlys prin.
Mae'n dweud bod y newidiadau yn "anfoesol anghywir".
"Oni bai bod Llafur yn gwneud newidiadau, bydd cannoedd o filoedd o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi pellach.
“Mae’n rhaid i ni ostwng y bil lles a chefnogi mwy o bobl i gael gwaith, ond nid yw torri cefnogaeth i rywun sydd angen help i wisgo a golchi yn y bore yn iawn, mae'n foesol anghywir."
Yn ôl yr adroddiad ar y cyd rhwng Sefydliad Bevan a Policy in Practice fe allai nifer y bobl mewn tlodi yng Nghymru dreblu.
"Ar draws Cymru gallai cyfraddau tlodi ymhlith aelwydydd sydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau i fudd-daliadau anabledd fwy na threblu, o 24.5% i 78.4%.
"Er y gallai cynlluniau Llywodraeth y DU i gefnogi mwy o bobl anabl i gael gwaith leihau effaith y toriadau, mae'n debygol y bydd aelwydydd sydd yn cael eu heffeithio dal fod ddwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ar ôl i'r newidiadau gael eu cyflwyno'n llawn nag sydd ar hyn o bryd."
Mae'r sefydliad hefyd yn amcangyfrif y bydd economi Cymru ar ei cholled o £470 miliwn pe bai'r newidiadau yn dod i rym.
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, Dr Steffan Evans y byddai'r newidiadau yn cael "effaith ddifrifol" ar gannoedd ar filoedd o bobl.
“Mae’n amlwg, heb ailystyried, y bydd newidiadau posib Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau yn cael effaith hynod ddifrifol ar dlodi yng Nghymru, gan wneud bywyd yn anoddach i filoedd o bobl anabl.
"Nid yn unig y bydd y newidiadau i’r system fudd-daliadau yn golygu bod mwy o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru, ond mae’r data newydd hefyd yn dangos bod pobl anabl sy’n byw mewn tlodi ar fin mynd yn dlotach gyda rhai aelwydydd ar eu colled o £900.
“Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at ba mor bwysig yw’r system fudd-daliadau wrth leihau tlodi.
"Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cynnal rhwyd ddiogelwch cryf i sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o gefnogi pobl ym mhob rhan o’r wlad drwy fynd i’r afael â thlodi a chreu swyddi diogel â chyflog da.
“Dyna pam rydym yn creu system les gynaliadwy sy’n cefnogi pobl sâl ac anabl yn wirioneddol i gael gwaith."