Carcharu dyn o Ystalyfera am droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae dyn 60 oed o Ystalyfera wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a saith mis am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe gafodd Steven Loveridge o Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o ymddygiad anweddus, dau gyhuddiad o ysgogi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol a thri chyhuddiad pellach o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Plediodd yn euog i'r saith cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys o fod â 469 llun anweddus o blant yn ei feddiant, gyda 82 ohonynt yn Gategori A.
Cafodd ei ddisgrifio gan yr erlyniad fel "pedoffeil penderfynol gyda diddordeb rhywiol mewn merched ifanc".
Cafodd ei ddedfrydu i garchar pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Fe fydd hefyd yn treulio chwe blynedd arall ar drwydded ar ddiwedd ei ddedfryd.
Daeth swyddogion o hyd i fapiau o ardaloedd lleol gyda nodiadau arnynt a oedd yn dynodi lle y byddai Loveridge yn gallu dod o hyd i blant.
Fe wnaeth archwiliadau fforensig digidol ddarganfod fod Loveridge wedi bod yn chwilio ar y wê am amseroedd agor a chau ysgolion yn ei ardal leol.
Wrth ei ddedfrydu ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Catherine Richards: "Mae eich diddordeb rhywiol mewn plant ifanc wedi bodoli ers 2007. Ar hyn o bryd, mae yna risg bellach ohonoch yn cyflawni troseddau rhyw o'r fath, a risg sylweddol ohonoch yn achosi niwed difrifol o ganlyniad."
Ychwanegodd y Ditectif Cwnstabl Andy Leonard: "Er bod troseddau Loveridge heddiw yn ffiaidd, dwi'n credu fod amseru'r arestiad wedi bod yn hanfodol wrth atal gwaethygu ei ymddygiad peryglus a throseddol.
"Y realiti yw, dydyn ni ddim yn gwybod pa mor bell y byddai Loveridge wedi mynd er mwyn bodloni ei ddyheadau rhywiol pe na bai yn y carchar heddiw."