Newyddion S4C

Ymgyrch codi arian i deulu dyn o Sir Gâr fu farw mewn rali yn cyrraedd £100,000

Dai Roberts

Mae ymgyrch codi arian i deulu dyn o Sir Gâr a fu farw mewn damwain ralïo yn yr Alban bellach wedi cyrraedd £100,000.

Bu farw Dai Roberts, 39 oed, o Gaerfyrddin, mewn gwrthdrawiad yn ystod Rali Jim Clark ddydd Sadwrn diwethaf.

Roedd Mr Roberts, oedd yn dad i ddau o blant, yn cyd-yrru mewn car gyda James Williams pan ddigwyddodd y ddamwain ar gymal wyth o’r rali ger tref Duns, yn Sir Berwick.

Cafodd Mr Williams, 27 oed, o Gastell Newydd Emlyn, ei gludo i’r ysbyty yng Nghaeredin gydag anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd tudalen JustGiving ei sefydlu gan Damian Cole a John Stone, er mwyn ‘codi gymaint o arian a phosib ar gyfer angladd a chefnogaeth barhaus’ i’w deulu.'

Mewn teyrnged ar y dudalen, dywedodd y trefnwyr: “Fe wnaeth Dai helpu gymaint o bobl ar ôl eu damweiniau nhw wrth gystadlu.

“Nawr dyma ein tro ni i helpu ei deulu ar ôl ei ddamwain ofnadwy ar gymal 8 Rali Jim Clark ddydd Sadwrn.”

Cafodd y rali ei chanslo yn dilyn y digwyddiad, gyda Motorsport UK yn cadarnhau y byddai  “ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r digwyddiad” yn cael ei gynnal.

Cafodd Mr Roberts, oedd hefyd yn hyfforddwr pêl droed i dîm ieuenctid Clwb Pêl-droed Bancffosfelen, ei anafu mewn rali yng Ngogledd Iwerddon yn 2014.

Bu farw ei frawd, Gareth Roberts, mewn rali ar ynys Sisili yn 2012.

Dan enw ei ddiweddar frawd, fe wnaeth sefydlu Cronfa Coffa Gareth Roberts, i gefnogi gyrwyr rali oedd wedi’u hanafu wrth gystadlu ac nad oedd yn gallu parhau i weithio.

Llun: British Rally Championship

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.