Newyddion S4C

‘Heriau sylweddol’ i gael pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg arlein

‘Heriau sylweddol’ i gael pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg arlein

Mae “heriau sylweddol” wedi codi wrth geisio annog pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yn ddyddiol, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Fe gafodd holiaduron eu llenwi gan dros 1600 o blant a phobl ifanc 11-21 oed ar draws Cymru, ac fe gafodd chwe grŵp ffocws eu cynnal.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, y nod oedd “ceisio deall mwy am arferion ieithyddol plant a phobl ifanc”.

Canolbwyntiodd yr ymchwil ar blant a phobl ifanc wrth iddynt ymwneud â’u teuluoedd a’u ffrindiau mewn gwahanol weithgareddau y tu allan i’r ysgol, wrth gyfathrebu arlein, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wrth dderbyn gwasanaethau.

'Cyfyngedig'

Dangosodd yr adroddiad fod y defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc y tu allan i’r ysgol yn “gyfyngedig”, yn enwedig wrth gyfathrebu arlein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond, daeth i’r canlyniad fod agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg yn “amlwg” ymysg siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rhai a ddysgodd y Gymraeg ar yr aelwyd, gyda'r mwyafrif yn “falch o'u gallu i siarad Cymraeg”.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, “nad oes dwywaith fod yr adroddiad yn amlygu heriau sylweddol yn enwedig ym maes cyfryngau cymdeithasol”.

Ond, ychwanegodd ei fod yn “adnabod cyfleoedd”, yn y maes chwaraeon, er enghraifft.

Dangosodd yr adroddiad fod plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau chwaraeon, yn enwedig gyda hyfforddwyr ac arweinwyr.

“Byddaf yn blaenoriaethu creu a chryfhau partneriaethau strategol er mwyn datblygu’r cyfleoedd hynny ymhellach,” meddai Efa Gruffudd Jones.

'Cynnig cyfleoedd'

Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, mae angen ehangu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol.

“Mae'n amlwg bod nifer helaeth o ymatebwyr nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn aml iawn y tu allan i'r ysgol ond sy’n gyffredinol gefnogol i'r Gymraeg ac yn dymuno cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith,” meddai.

Dywedodd fod y mentrau iaith yn chwilio yn gyson am “gyfleoedd pellach” i ehangu eu gweithgareddau cymunedol er mwyn “cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol”.

“Mae’r adroddiad yn dangos fod y gwaith hwnnw yn hollbwysig a byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd a phartneriaid,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.