Newyddion S4C

Cymro o Abertawe yn cwblhau taith gerdded ar hyd yr Andes

Oliver Treviso

Mae Cymro o Abertawe wedi cwblhau'r dasg o gerdded hyd yr Andes. 

Fe wnaeth Oliver Treviso ddechrau ar ei daith 8,000 milltir o’r Ariannin ym mis Medi 2023, ac mae'n credu mai fo yw y cyntaf i gerdded drwy bob un o’r holl wledydd sy’n cwmpasu’r mynyddoedd ar hyd y daith i lawr de America.

Mae wedi cwblhau ei daith wrth ymyl Môr y Caribî yn Venezuela.

Mae’r daith wedi golygu i’r dyn 29 oed o St Thomas, groesi tirweddau amrywiol gan gynnwys diffeithwch, fforestydd, jwngl, rhewlifoedd yn ogystal â’r mynyddoedd.

Mae wedi cerdded drwy'r Ariannin, Chile, Bolivia, Periw, Ecuador, Colombia a Venezuela.

Ei fwriad oedd codi £10,000 ar gyfer cangen elusen Mind yn Ystradgynlais.

Fe wnaeth ei dad a’i frawd ymuno ag Ollie ar dridiau olaf ei daith.

Bu’n rhaid iddo gario cyflenwadau sylfaenol a phabell ar ei gefn, gan orffwys mewn pentrefi a chymunedau lle'r oedd yn gallu cysylltu gyda’i deulu yn ôl yn Abertawe a golchi dillad a gwefru dyfeisiau trydanol.

Mae arosfannau gorffwys hefyd yn rhoi cyfle iddo ddiweddaru ei daith i'w ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Image
Oliver Treviso yn Nhrevelin
Fe ddechreuodd Ollie ei daith yn Yr Ariannin

Mae Ollie hefyd wedi ymweld â Threvelin, yn y Wladfa ym Mhatagonia.

Dywedodd Ollie: “Rwyf wedi bod yn cyfrif y dyddiau i'r funud hon ers cymaint o amser. 

"Unwaith roedd fy nhad a fy mrawd wedi cyrraedd roedd yr her drosodd. Mae'r profiad hwn wedi rhoi cymaint i mi. Rwy'n gwybod pa mor lwcus ydw i o gael y teulu a'r ffrindiau rydw i wedi eu gwneud. 

"Dyna deimlad yw cael bod yma. 

"Y tri ohonom o stad fach yn Abertawe. Pwy fyddai erioed wedi meddwl y bydden ni yn Venezuela heddiw?”

Yn ogystal â chodi arian i elusen, mae Ollie wedi gorfod gwneud apêl am gymorth iddo ddychwelyd adref ar ôl iddo golli ei arian a ffôn yn dilyn ymosodiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.