Bron i hanner miliwn o fêps untro yn cael eu taflu fel sbwriel yng Nghymru
Mae amcangyfrif bod 360,000 o fêps untro yn cael eu taflu fel sbwriel ar lawr yng Nghymru dros flwyddyn, a bod 120,000 yn cael eu fflysio i lawr y toiled, yn ôl elusen Cadwch Gymru’n Daclus.
Bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU o ddydd Sul, 1 Mehefin ymlaen.
Y gobaith yw y bydd y gwaharddiad yn lleihau’r niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu.
O ddydd Sul ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n gwerthu fêps untro gynnig gwasanaeth ailgylchu a chymryd fêps, podiau a batris eu cwsmeriaid yn ôl, a chael gwared ar unrhyw fêps untro sydd ganddynt dros ben yn gywir.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae sbwriel yn “difetha ein cymunedau, yn llygru pridd, afonydd a nentydd â sylweddau niweidiol gan achosi niwed i fioamrywiaeth".
‘Pla’
Dywedodd Owen Derbyshire, Pennaeth Cadwch Gymru'n Daclus, ei fod yn croesawu’r penderfyniad i wahardd fêps untro, gan ddweud eu bod wedi galw am y gwaharddiad ers “sawl blwyddyn”.
“Gwnaeth bron i hanner yr holl sesiynau casglu sbwriel gan ein gwirfoddolwyr y llynedd ddod ar draws y cynhyrchion niweidiol hyn.” meddai.
“Maen nhw'n bla i'n cymunedau, yn berygl i fywyd gwyllt, a bron yn amhosibl eu hailgylchu.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, y bydd y gwaharddiad ar fêps untro yn “helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cynhyrchion fepio”.
Mae hi’n gobeithio y golygai “nad ydyn nhw byth yn dechrau fepio ac yn osgoi'r niwed a achosir o fod yn gaeth i nicotin."
‘Creu sbwriel’
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies bod fêps untro yn “creu sbwriel a llygredd plastig”.
“Bydd y gwaharddiad hwn yn helpu i atal y niwed difrifol y mae'r cynhyrchion hyn yn achosi i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd.” meddai.
Ychwanegodd y dylai’r cyhoedd eu hailgylchu mewn siopau fêps, neu fynd â nhw i ganolfan ailgylchu awdurdod lleol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.
“Peidiwch byth â rhoi fêps yn y bin gan fod perygl iddyn nhw fynd ar dân." meddai.