Rafik Harrington o Gaerdydd yn ennill gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd
Rafik Harrington yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro.
Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, cyhoeddwyd mai Rafik, sy’n 19 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw Prif Gyfansoddwr yr ŵyl.
Eleni cafodd y fedal ei roi gan gorau lleol yr ardal (Parti Llwchwr, Côr Meibion Dyfnant, Côr Nedd, Côr y Gweilch, Côr Philharmonic Abertawe, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys).
Daeth Rafik yn ail yn y gystadleuaeth y llynedd.
Astudiodd gyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru gyda Michael McCartney a Joel Baldwin am bum mlynedd, ac yn yr amser hynny mi chwaraeodd ffidil gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd a phiano yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdydd ac mewn ensemble.
Bellach mae'n fyfyriwr cyfansoddi yn ei flwyddyn gyntaf yn yr RNCM ym Manceinion. Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau astudio ieithoedd, gan gynnwys Gwyddeleg, Almaeneg a Ffrangeg, darllen, athroniaeth a cherdded mynyddoedd.
Mae Rafik yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer wythawd diddorol o offerynnau. Daeth 11 ymgais i law, gyda’r beirniaid Eilir Owen Griffiths a Carwyn Jones yn nodi fod “pob un ohonynt yn dangos addewid a rhinweddau da ym mhob darn.”
Dywedodd Rafik, oedd yn cystadlu gan y ffugenw Mustav Gahler: “Ysbrydoliaeth y darn yma oedd syllu ar olygfa wedi’i lygru gan olau ar noson ym mis Rhagfyr.
"Mae ffrwydradau egni’r darn yn cynrychioli yr hyn mae’r llygaid yn ei weld dan olau isel, sef arwyddocâd “scotopia.” Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yn rhannol o Harrison Birtwistle a Mahler, a gadarnheir gan fy ffugenw.”
Dywedodd y beirniaid: “Mae’r enillydd yn deall sut i strwythuro darn yn effeithiol, dangos sensitifrwydd wrth ddatblygu syniadau ac wedi cymryd gofal dros bob agwedd o’r ysgrifennu. Roedd y daith gerddorol yn glir a’r sylw neilltuol i’r manylder yn dangos cyfansoddwr aeddfed dros ben.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gerard Coutain o Rydaman (enillydd y llynedd), a Heledd Wynn Newton o Gaerdydd oedd yn drydydd.