Cymru i wynebu'r Eidal yn eu gêm olaf cyn Euro 2025
Cymru i wynebu'r Eidal yn eu gêm olaf cyn Euro 2025
Fe fydd Cymru yn wynebu'r Eidal yn Abertawe nos Fawrth yn eu gêm olaf cyn Euro 2025 yn Y Swistir ym mis Gorffennaf.
Colli oedd hanes tîm Rhian Wilkinson o 1-0 yn erbyn Denmarc oddi cartref nos Wener, gan olygu fod Cymru bellach wedi disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Fe fydd y tîm yn dychwelyd i gynghrair B ar gyfer eu hymgyrch nesaf yn y gystadleuaeth.
Fe wnaeth Cymru apelio am gôl yn gynnar yn eu gêm yn Odense, gyda Jess Fishlock yn grediniol fod y bêl wedi croesi’r llinell ar ôl tacl.
Ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu, gyda UEFA yn cadarnhau yn ddiweddarach nad oedd y dechnoleg oedd ei hangen i wirio a oedd y bêl wedi croesi’r llinell ar gael ar gyfer y gêm.
Er gwaetha'r siom nos Wener, roedd newyddion cyffrous a chalonogol i Gymru ddydd Llun, gyda golygfeydd o Sophie Ingle yn ôl yn ymarfer gyda'r garfan.
Dyw Ingle ddim wedi ymarfer gyda charfan Cymru ers iddi gael anaf difrifol i'w choes ym mis Medi y llynedd.
Y gobaith ydy y bydd Jess Fishlock yn parhau yn holliach ar ôl dychwelyd i chwarae i Gymru yn dilyn anaf diweddar.
Bydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi ei charfan ar gyfer Euro 2025 ar Yr Wyddfa ar 19 Mehefin.
Bydd Cymru yn croesawu'r Eidal i Stadiwm Swansea.com yn Abertawe nos Fawrth yn eu gêm olaf yn yr ymgyrch, a'u gêm olaf cyn Ewro 2025 yn y Swistir fis Gorffennaf.