'Un o gewri Dyffryn Nantlle': Teyrngedau i O.P. Huws sydd wedi marw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn gyfarwyddwr cwmni recordiau Sain, O.P. Huws, sydd wedi marw yn 82 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd, roedd Owen Pennant Huws hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru dros Lanllyfni a Nantlle hyd at 2012.
Roedd yn dod o Ddyffryn Ceiriog yn wreiddiol ond symudodd i Ddyffryn Nantlle pan yn ifanc.
Sefydlwyd Fideo Sain fel adran annibynnol o fewn cwmni Sain o dan ei ofal ar ddechrau'r 1990au, gan gynhyrchu fideos ac yn hwyrach DVDs gwreiddiol ar ben arlwy S4C.
Derbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth yn 2023.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd cwmni recordiau Sain: "Gyda thristwch y mae cwmni SAIN yn cyhoeddi marwolaeth un o’n cyfarwyddwyr, Owen Pennant Huws.
"Yn enedigol o Lyn Ceiriog, bu OP yn rhan o nifer o gwmnïau a mentrau cymunedol yn Nyffryn Nantlle, a bu ei gyfraniad i gwmni Sain yn allweddol dros sawl degawd.
"Roedd yn genedlaetholwr pybyr, a bu’n Gynghorydd Sir yn enw Plaid Cymru am nifer o flynyddoedd, gan fod yn gefn i sawl menter gymdeithasol a masnachol yn ei gymuned. Roedd yn gymeriad byrlymus, a bydd colled fawr ar ei ȏl."
Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts: "Dyn a gyfrannodd gymaint i gymuned Dyffryn Nantlle lle rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth diwyd fel Cynghorydd.
"Cofiwn am ei gymeriad hwyliog ei ddycnwch gwleidyddol a’i gariad tuag at ei gymuned a’i wlad."
Ychwanegodd Aelod Senedd Arfon, Siân Gwenllian o Blaid Cymru: "Mae’n ddrwg calon gen i glywed am farwolaeth O.P. Huws, un o gewri Dyffryn Nantlle. Cefais y fraint o wasanaethu ochr yn ochr ag O.P. fel cynghorydd, a gwelais drosof i fy hun ei ymrwymiad diflino i'w gymuned ac i achos Plaid Cymru.
"Cafodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar, gwobr gyfan gwbl haeddianol a oedd yn deyrnged i oes o wasanaeth."
Llun: Richard Birch.