Artist o Abertawe yn cynnig tatŵs mastectomi am ddim
Artist o Abertawe yn cynnig tatŵs mastectomi am ddim
Mae artist tatŵ o Abertawe wedi ymuno ag elusen sy'n arbenigo ym maes tatŵs mastectomi.
Ers bron i ddwy flynedd, mae Beth Jones wedi bod yn cynnig y gwasanaeth am ddim, yn bennaf i bobl sydd wedi colli bron ar ôl triniaeth ganser, drwy ddylunio tatŵ ar y rhan hwnnw o'r corff.
Bellach, mae hi wedi ymuno â'r elusen Nip (Nipple Innovation Charity).
Dechreuodd Beth Jones greu tatŵs yn 2020, ar ôl "cwympo mewn cariad" gyda darlunio yn ystod y cyfnod clo.
Bu'n rhaid i'w mam dreulio blwyddyn yn yr ysbyty ar ôl iddi gael canser. A chafodd Beth ei hysbrydoli gan waith caled y nyrsys yno.
“Roeddwn i mo'yn bod fel nhw,” meddai.
Penderfynodd y byddai'n hoffi datblygu ei gwaith tatŵ, ar ôl i un o'r nyrsys ofyn a oedd hi wedi clywed am datŵs wedi mastectomi, sef llawdriniaeth i godi'r fron.
Fe wnaeth ymchwil pellach, a sylweddoli bod cyfleoedd iddi gynnig y gwasanaeth.
“Roeddwn i'n gallu helpu pobl trwy hefyd wneud rhywbeth rydw i’n ei garu,” meddai.
Ers hynny, mae hi wedi bod yn gweithio yn llawn amser fel artist tatŵ, gan hefyd gynnig gwasanaeth am ddim i bobl sydd wedi cael llawdriniaeth i godi'r fron, drwy ddylunio tatŵ, siâp teth ar y rhan hwnnw o'r corff.
Yn ddiweddar, mae Beth Jones wedi ymuno ag elusen Nip (Nipple Innovation Charity) fel artist tatŵ, ar ôl cyfarfod â’r perchennog, Lucy Thompson.
Mae’r elusen yn ceisio dod o hyd i artistiaid ar draws y DU, ac yn cynnig cymorth ariannol fel bod modd iddyn nhw gynnig y tatŵs mastectomi am ddim.
Mae Beth yn teimlo’n hynod o lwcus i fod yn aelod o’r elusen, gan gefnogi pobl fyddai methu fforddio tatŵ mastectomi.
"Cyfeirir yn aml at datŵs tethau fel y 'geirios ar y gacen', y 'bennod olaf' neu 'llinell derfyn y daith'. Maent yn galluogi pobl i dderbyn eu cyrff ar ôl eu gweld yn newid oherwydd llawdriniaethau sy'n gysylltiedig â chanser y fron,” meddai Lucy Thomson .
Nod yr elusen yw i ddenu mwy o artistiaid sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ledled y DU, er mwyn medru cynnig atebion diogel, realistig a pharhaol i bobl.
Mae’r elusen wedi cefnogi dros 1,000 o gleifion hyd yma.