Newyddion S4C

Angen cadw teithiau Amgueddfa Lofaol Cymru yn ‘rhad ac am ddim’

Big Pit / Delyth Jewell

Ni ddylid codi tâl er mwyn cael mynediad at hanes mwyngloddio glo yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Diwylliant y Senedd.

Mae adroddiad y Pwyllgor Diwylliant ar godi tâl mewn arddangosfeydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu Amgueddfa Cymru i raddau “digonol”.

Daw’r galwadau wedi i Amgueddfa Lofaol Cymru (Big Pit) godi £8 y pen er mwyn i’r cyhoedd gael mynd ar daith danddaearol fel cynllun prawf. 

Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai’r teithiau barhau i fod yn “rhad ac am ddim”

Dywedodd Delyth Jewell AS, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod y polisi o deithiau am ddim wedi bod yn llwyddiannus.

“Ni ddylai neb orfod talu i fwynhau casgliadau sy’n eiddo i bobl Cymru,” meddai.

Disgrifiodd Llywodraeth Cymru fel “ceidwaid hanes ein cenedl”, a bod ganddynt gyfrifoldeb i ariannu sefydliadau cenedlaethol yn “ddigonol”.

“Ni fu’n diwallu’r cyfrifoldeb hwn,” meddai.

“Dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi torri cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru i’r graddau ei fod yn un o’r lefelau isaf yn Ewrop.”

Mae Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen, yn un o’r saith amgueddfa o dan adain Amgueddfa Cymru.

Mae'n cynnig teithiau tanddaearol dan arweiniad cyn-lowyr fel y gall ymwelwyr archwilio'r siafftiau a'r peiriannau gwreiddiol.

O fis Ebrill 2025 i fis Gorffennaf 2026 fel cynllun prawf, mae disgwyl i’r cyhoedd brynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y daith danddaearol am £8 y pen.

Mae tocynnau cyfyngedig ar gael hefyd ar y diwrnod am £5.

Nododd y Pwyllgor fod y rhan fwyaf o’r ymwelwyr yn hapus â’r pris, ond maent yn argymell y dylai teithiau tanddaearol barhau i fod yn rhad ac am ddim.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru i gael ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.