Newyddion S4C

Deifiwr wedi marw yn Chwarel Dorothea

Chwarel Dorothea

Mae dyn 60 oed wedi marw ar ôl bod yn deifio yn ardal Chwarel Dorothea yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r chwarel yn ardal Dyffryn Nantlle ddydd Sadwrn, meddai Heddlu’r Gogledd. 

Cafdodd corff y dyn 60 oed ei ddarganfod yn ddiweddarach. 

Mewn datganiad dywedodd y llu: “Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

“Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.