Newyddion S4C

Gohirio achos llys dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd merch fach tan y flwyddyn nesaf

Sophia Kelemen

Mae achos llys dyn sydd wedi'i gyhuddo o ladd merch fach a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar mewn maes parcio aml-lawr yn Sir Benfro wedi'i ohirio tan y flwyddyn nesaf.

Mae Flaviu Naghi, 34, yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth Sophia Kelemen, chwe mis oed, trwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal tra dan ddylanwad cyffuriau.

Fe wnaeth Mr Naghi, o Rondini Avenue, Luton, Sir Bedford, siarad trwy gyfieithydd i gadarnhau ei enw a chyflwyno ple yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Cytunodd y Barnwr Catherine Richards i gais i ohirio'r achos tan 5 Ionawr 2026, blwyddyn a thri diwrnod ar ôl marwolaeth Sophia.

Dywedodd y barnwr ei bod yn "gresynu" bod angen gohirio'r achos, ond dywedodd ei bod yn angenrheidiol i ganiatáu i fwy o dystiolaeth arbenigol gael ei chasglu.

Rhyddhawyd Naghi ar fechnïaeth.

Image
Flaviu Naghi
Flaviu Naghi yn cyrraedd y llys

Ymddangosodd Tom Crowther KC ar ran yr erlyniad tra bod John Hipkin KC yn cynrychioli'r diffynnydd.

Cafodd Sophia, o ardal Leigh ym Manceinion, ei tharo gan gar ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, ar 2 Ionawr.

Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Roedd hi wedi cael ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi cael triniaeth frys cyn iddi farw.

Clywodd cwest a agorodd yn Llys Crwner Sir Benfro ym mis Ionawr fod Sophia wedi marw o "waedlif" a achoswyd gan wrthdrawiad traffig ffordd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.