Nantlle: Plentyn wedi marw yn 'annisgwyl' ar ôl digwyddiad meddygol
Mae plentyn wedi marw yn "annisgwyl" yn yr ysbyty wedi "digwyddiad meddygol" ym mhentref Nantlle yng Ngwynedd ddydd Sul.
Fe aeth y gwasanaethau brys i gyfeiriad ym mhentref Nantlle ger Caernarfon ar 1 Mehefin wedi adroddiadau o ddigwyddiad meddygol.
Cafodd plentyn ei gludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un "annisgwyl" meddai'r heddlu, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.