Newyddion S4C

Madeleine McCann: Heddlu'r Almaen i ddechrau ymchwiliad newydd ym Mhortiwgal

madeleine mccann

Mae Heddlu'r Almaen yn dechrau ymchwiliad newydd ym Mhortiwgal i ddiflaniad Madeleine McCann.

Diflannodd Madeleine, a oedd yn dair oed ar y pryd, yn 2007 tra ar wyliau gyda'i theulu yn nhref glan môr Praia da Luz ar ôl i'w rhieni fynd allan am fwyd a'i gadael yn cysgu mewn ystafell gyda'i brawd a’i chwaer fach.

Ddydd Llun, cyhoeddwyd y bydd ymgyrch chwilio yn ail-ddechrau'r wythnos hon ger y lle y gwelwyd hi ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Rydym yn ymwybodol o’r chwiliadau sy’n cael eu cynnal gan y BKA (Heddlu Ffederal yr Almaen) ym Mhortiwgal fel rhan o’u hymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann.

“Nid yw Gwasanaeth Heddlu’r Met yn bresennol yn y chwilio, byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr rhyngwladol lle bo angen.”

Christian Brueckner yw’r prif berson sy'n cael ei amau, sydd ar hyn o bryd yn treulio dedfryd o saith mlynedd yn y carchar yn Yr Almaen am dreisio menyw oedrannus yn ei chartref yn Praia da Luz yn 2005.

Fe wnaethon nhw gynnal chwiliadau diwethaf yn y wlad yn 2023 ger cronfa ddŵr Barragem do Arade, tua 30 milltir o Praia da Luz.

Roedd gan Brueckner, a dreuliodd amser yn yr ardal rhwng 2000 a 2017, luniau a fideos ohono'i hun ger y gronfa ddŵr.

Mae wedi gwadu unrhyw ran yn ei diflaniad.

'Prydferth ac unigryw'

Fis diwethaf, dywedodd teulu Madeleine ei bod yn 18 mlynedd ers ei diflaniad, gan ei disgrifio fel merch “brydferth ac unigryw” cyn ei phen-blwydd yn 22 oed.

Fe wnaethon nhw hefyd ddweud eu bod am barhau i chwilio amdani.

Dywedodd datganiad gan ei rhieni Kate a Gerry McCann a’r teulu: “Mae’n ymddangos bod y blynyddoedd yn mynd heibio hyd yn oed yn gyflymach.

“Er nad oes gennym unrhyw newyddion arwyddocaol i’w rhannu, mae ein penderfyniad i ‘adael pob carreg heb ei throi’ yn ddiysgog.

“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gyflawni hyn.”

Ym mis Ebrill, cymeradwyodd gweinidogion fwy na £100,000 mewn cyllid ychwanegol ar gyfer ditectifs Scotland Yard sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.