Mae dau ymgyrchydd dros hawliau Palestiniaid wedi eu dyfarnu'n euog o aflonyddu Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, wedi iddyn nhw ei chyhuddo o gefnogi hil-laddiad mewn cysylltiad â'r anghydfod rhwng Israel a Hamas.  

Cafodd Ayeshah Behit, 31 oed, a Hiba Ahmed, 26 oed, eu dyfarnu'n euog o aflonyddu Alex Davies-Jones, wedi achos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.  

Roedden nhw wedi ffilmio sgwrs rhyngddyn nhw â Ms Davies-Jones, sy'n weinidog cyfiawnder yn San Steffan, wrth iddi ymgyrchu yn Nhrefforest ger Pontypridd cyn yr Etholiad Cyffredinol fis Mehefin y llynedd. 

Cafodd yr ymgyrchwyr eu rhyddhau dan amodau gan y Barnwr Paul Goldspring. Bydd yn rhaid iddyn nhw dalu costau o £650 yr un. 

Wrth roi tystiolaeth yn ystod yr achos, dywedodd Aled Davies-Jones ei bod wedi "dychryn" ar ôl i'r ymgyrchwyr ddod ati.

Eglurodd fod gan Behit ac Ahmed daflenni a oedd yn ei disgrifio hi fel “cefnogwraig frwd yr hil-laddiad hwn ” – yn cyfeirio at y gwrthdaro rhwng Israel a Hamas.

Dywedodd Ms Davies-Jones: “Fe wnaethon nhw fy holi am y cadoediad, a pham fy mod i wedi ymatal mewn pleidlais. Fe wnes i egluro nad oeddwn wedi ymatal. Doeddwn i ddim yn y wlad, roeddwn i wedi paru ar gyfer y bleidlais honno.”  

'Ofn'

Ychwanegodd fod tensiwn wedi cynyddu ac iddi gerdded i gyfeiriad arall, oherwydd bod arni ofn. 

“Roedd nifer o aelodau ifanc gen i. Roedden nhw'n teimlo'n anghyfforddus,” meddai Ms Davies- Jones.

“Fe ddechreuon nhw ein dilyn. Roedden nhw'n gweiddi arnon ni  – ‘pam eich bod yn cefnogi hil-laddiad, pam eich bod yn llofruddio babanod Alex Davies-Jones?'”

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe osododd Behit ac Ahmed bosteri ar swyddfa'r Blaid Lafur ym Mhontypridd yn cyfeirio at wleidyddion yn "caniatáu hil-laddiad.”

A chafodd fideo o'r sgwrs yn gynharach yn y dydd ei uwchlwytho ar gyfryngau cymdeithasol, gyda Ms Davies-Jones yn cael ei disgrifio fel person hiliol.

Wrth eu dedfrydu, dywedodd y Barnwr wrth Ahmed a Behit fod hon yn rhan o "ymgyrch fwriadol a chyson" i dargedu'r aelod seneddol. 

“Doedd hynny ddim yn rhesymol,” meddai. 

Ychwanegodd y Barnwr fod gan y diffynyddion hawliau a rhyddid i fynegi barn, ond fod yr achos hwn wedi mynd "y tu hwnt i'r ffiniau hynny."   

Wrth siarad y tu allan i'r llys wedi'r gwrandawiad, dywedoddd Ayeshah Behit y byddan nhw'n apelio yn erbyn y dyfarniad.