Rachel Reeves 'yn barod' i fynd â chyn berchennog Chelsea i'r llys
Mae Canghellor ac Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw’n mynd â Roman Abramovich i’r llys os na allan nhw ddod i gytundeb yn fuan.
Daw hyn ar ôl iddo orfod gwerthu clwb pêl-droed Chelsea yn 2022.
Fe wnaeth Abramovich o Rwsia werthu’r clwb i gonsortiwm o’r Unol Daleithiau am £2.5 biliwn yn dilyn y rhyfel yn Wcráin.
Roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno sancsiwn arno yn sgil ei gysylltiadau honedig ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Ar hyn o bryd, mae’r biliynau o bunnoedd wedi eu rhewi mewn banc yn y Deyrnas Unedig. Y bwriad yw defnyddio’r arian ar gyfer cymorth dyngarol yn Wcráin.
Mae’r Canghellor Rachel Reeves a’r Ysgrifennydd Tramor David Lammy bellach wedi dweud eu bod nhw’n teimlo “hynod o rwystredig” eu bod nhw heb ddod i gytundeb gyda Abramovich eto.
Maent yn dweud y byddan nhw yn mynd ag ef i lys os na allan nhw ddod i gytundeb.
Mewn datganiad ar y cyd maent yn dweud bod y llywodraeth yn “benderfynol” y bydd yr elw o werthiant clwb pêl-droed Chelsea yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cymorth dyngarol yn Wcráin “yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia” yno.
“Rydym yn hynod o rwystredig nad ydyn ni wedi dod i gytundeb gyda Mr Abramovich hyd yma.
“Mae’r drws ar gyfer trafodaethau yn parhau ar agor, ond rydym yn barod i fynd i’r llys os oes angen, a hynny er mwyn sicrhau y gall pobl yn Wcráin gael budd o’r gwerthiant cyn gynted â phosib.”
Yn dilyn 19 mlynedd o berchnogaeth, roedd yn rhaid i Abramovich werthu clwb pêl-droed Chelsea oherwydd ei gysylltiadau honedig a Putin. Mae’n gwadu cysylltiadau o’r fath.
Cafodd y clwb ei werthu dan oruchwyliaeth y Swyddfa Gweithredu Sancsiynau Ariannol, a hynny ar yr amod y byddai’r elw’n mynd tuag at gymorth dyngarol yn Wcráin.