
Coachella yn gorchymyn 'H' o Steps i newid enw ei ŵyl gerddoriaeth
Mae’r Cymro a’r seren bop Ian ‘H’ Watkins wedi dweud ei fod wedi cael ei orfodi i newid enw ei ŵyl gerddoriaeth ym Mro Morgannwg yn dilyn cwynion gan ŵyl Coachella yn yr Unol Daleithiau.
Fe gafodd tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cowchella eu tynnu i lawr ac fe ddiflannodd y logo oddi ar dudalen prynu tocynnau Eventbrite.
Mae Ian 'H' Watkins, sydd yn fwyaf adnabyddus am fod yn aelod o'r band Steps, yn dweud bod hyn wedi digwydd yn dilyn cwyn swyddogol gan Coachella Ltd.
Mae rhai o sêr mwyaf y byd cerddoriaeth wedi perfformio yng ngŵyl Coachella yn nhalaith Califfornia, gan gynnwys Beyoncé, Harry Styles, Lady Gaga a Billie Eilish.
Gŵyl sy'n cael ei chynnal yn Y Bont-faen yw Cowchella ar gyfer bandiau tribiwt. Watkins â’r cyflwynydd Owain Wyn Evans o Sir Gar a’r actores Claire Sweeney sydd yn trefnu'r digwyddiad.

Mae’r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi enw newydd ar gyfer yr ŵyl, sef Gŵyl Moo-La-La.
“Rydw i’n ystyried y peth fel canmoliaeth enfawr eu bod nhw’n teimlo bod ein gŵyl fach ni yn dipyn bach o fygythiad [iddynt],” meddai Watkins.
“Mae ychydig yn syfrdanol… mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn wahanol iawn, iawn i’r hyn maen nhw’n ei wneud.
“Dyw Beyoncé ddim yn perfformio i ni. Mae gennym ni act tribiwt Steps.”
Dywedodd eu bod nhw wedi gwario miloedd o bunnoedd ar farchnata 'Cowchella' ond ei fod yn "hapus" gyda'r holl sylw yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae pobl “yn caru’r ffaith bod Coachella wedi rhoi’r Bont-faen ar y map" meddai.
Ychwanegodd ei fod yn “falch” bod Coachella wedi cysylltu pan wnaethon nhw a'u bod yn “lwcus” nad oedd hi "yr wythnos cyn [yr ŵyl].”
Fe fydd yr ŵyl yn parhau gyda’r enw newydd, Moo-La La, ac yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 2 Awst.
Llun: Instagram/@ianhwatkins