Newyddion S4C

'Methiannau systemig': Galw am drawsnewid system dŵr Cymru a Lloegr

'Methiannau systemig': Galw am drawsnewid system dŵr Cymru a Lloegr

Mae angen trawsnewid y sector dŵr yng Nghymru a Lloegr yn dilyn methiannau “systemig" medd adroddiad. 

Yn ôl comisiwn annibynnol a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a’r DU ym mis Hydref 2024, mae angen “cryfhau” rôl y rheoleiddiwr Ofwat ar lefel “sylfaenol.” 

Maen nhw’n galw ar y rheoleiddiwr i fabwysiadu dull ‘mwy goruchwyliol’. Fe allai hynny olygu bod Ofwat yn cymharu cwmnïau dŵr yn erbyn ei gilydd – a hynny er mwyn cyfiawnhau prisiau dŵr pobl ac effeithlonrwydd cwmnïau. 

Mae'r comisiwn hefyd yn galw am arweiniad cliriach gan y ddwy lywodraeth.

Yng Nghymru mae angen “adlewyrchu blaenoriaethau lleol a pharchu llais lleol ond hefyd sicrhau bod yna gydlyniad ar lefel cenedlaethol,” meddai’r adroddiad. 

'Methiannau systemig'

Rhwng mis Chwefror ac Ebrill, fe gyfrannodd dros 50,000 o aelodau’r cyhoedd, ymgyrchwyr, rheoleiddwyr a gweithwyr yn y sector dŵr i’r adroddiad.

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn Dŵr Annibynnol, Syr Jon Cunliffe, fod mwyafrif y bobl wnaeth ymateb wedi dweud nad yw’r system yn gweithio i bawb. 

“Does 'na ddim un newid unigol, dim ots pa mor radical” a fydd yn trawsnewid y system dŵr yn y modd sydd ei angen, meddai. 

Dywedodd bod y Comisiwn wedi clywed am fethiannau “systemig sydd â gwreiddiau dwfn” dros gyfnod o flynyddoedd, gan gynnwys methiannau ar ran y llywodraethau i ddarparu strategaeth glir ar gyfer y dyfodol. 

Mae methiannau hefyd meddai o ran “gwarchod y sawl sy’n talu biliau yn ogystal â’r amgylchedd, a methiant rhai cwmnïau dŵr a’u perchnogion i weithredu er budd y cyhoedd, yn ogystal â’u buddiannau preifat.” 

Mae’n dweud y bydd angen deddfwriaeth newydd er mwyn mynd i’r afael a’r holl broblemau a hynny er mwyn adennill ymddiried y cyhoedd.

'System dŵr wedi torri'

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd ar gyfer Llywodraeth y DU, Steve Reed: “Mae ein system dŵr wedi torri. 

“Dyna pam wnes i lansio’r Comisiwn Dŵr er mwyn amlinellu argymhellion… i drawsnewid ein diwydiant dŵr a sicrhau ei fod yn darparu’r gwasanaeth y mae’r cyhoedd yn ei haeddu."

Mae’n dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i’r adroddiad yn llawn yn y dyfodol agos. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r Comisiwn Dŵr am ei adroddiad interim. 

"Rydym yn ystyried y cynnwys ac yn edrych ymlaen at dderbyn canfyddiadau'r Comisiwn pan fydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.