Newyddion S4C

Zia Yusuf yn ymddiswyddo fel cadeirydd Reform UK

Zia Yusuf

Mae Zia Yusuf wedi ymddiswyddo fel cadeirydd Reform UK, gan ddweud nad oedd gweithio i gael y blaid wedi'i hethol yn "ddefnydd da o fy amser" mwyach.

Daw hyn ar ôl iddo ddweud ei bod yn "dwp" i AS newydd y blaid alw ar Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer i wahardd y burka.

Dywedodd arweinydd Reform, Nigel Farage, ei fod yn "wirioneddol flin" bod Yusuf yn ymddiswyddo, gan ei ddisgrifio fel "hynod dalentog".

Dywedodd Mr Farage fod Mr Yusuf yn "ffactor enfawr" yn llwyddiant y blaid yn etholiadau'r mis diwethaf, pan enillodd Reform isetholiad, dwy ras faerol ac ennill 677 o gynghorwyr newydd.

Dywedodd Mr Yusuf ar y cyfryngau cymdeithasol: "11 mis yn ôl, des i'n gadeirydd Reform. Rwyf wedi gweithio'n llawn amser fel gwirfoddolwr i gymryd y blaid o 14 i 30% [mewn polau cenedlaethol], wedi cynyddu ei haelodaeth bedair gwaith ac wedi cyflawni canlyniadau etholiadol hanesyddol.

"Nid wyf bellach yn credu bod gweithio i gael llywodraeth Reform wedi'i hethol yn ddefnydd da o fy amser, ac rwyf drwy hyn yn ymddiswyddo o'r swydd."

Roedd Mr Yusuf wedi beirniadu Sarah Pochin - a enillodd isetholiad Runcorn a Helsby y mis diwethaf - am annog Syr Keir i wahardd y burka "er budd diogelwch y cyhoedd" yn ystod ei hymddangosiad cyntaf yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Yusuf ei bod yn "dwp i blaid ofyn i'r Prif Weinidog a fyddent yn gwneud rhywbeth na fyddai'r blaid ei hun yn ei wneud".

Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid, Richard Tice, y dylai fod "dadl genedlaethol" ynghylch gwaharddiad posibl.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.