Newyddion S4C

Cwmni newydd i redeg Swyddfa'r Post Caernarfon am gyfnod

Swyddfa'r post Caernarfon

Mae'n ymddangos fod dyfodol Swyddfa'r Post Caernarfon fymryn yn fwy sicr, ar ôl i gwmni fynegi diddordeb i redeg y swyddfa am gyfnod. 

Roedd pryderon y gallai'r safle gau, gyda nifer yn lleol yn ofni mai hyn fyddai'r "hoelen olaf yn yr arch" ar gyfer canol y dref. 

Mae'r gangen yn un o 115 o swyddfeydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig sydd o dan fygythiad, yn ôl Swyddfa'r Post.  

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville-Roberts wedi ymgyrchu gyda gwleidyddion eraill yn lleol er mwyn ceisio sicrhau fod y gwasanaethau dros y cownter yn parhau yng Nghaernarfon.  

Mae hi wedi cyflwyno deiseb ag arni 1,633 o enwau i Gadeirydd Swyddfa'r Post, Nigel Railton, yn San Steffan. 

Roedd hi wedi cael ei chreu ar y cyd gydag Aelodau'r Senedd Siân Gwenllian a Llŷr Gruffudd, ac un o gynghorwyr Gwynedd, Cai Larsen. 

Mae Ms Saville-Roberts bellach yn dweud ei bod hi wedi derbyn llythyr gan Swyddfa'r Post yn nodi y bydd RF Retail yn rhedeg y gangen yng Nghaernarfon, o dan Richard Fleetwood "hyd nes y bydd trefniadau hir dymor yn eu lle."

Dywedodd Jack Foden, pennaeth materion cyhoeddus Swyddfa'r Post y byddan nhw'n "gweithio gyda RF Retail dros weddill y flwyddyn ariannol."

Mae hynny er mwyn caniátau "digon o amser i fwrw golwg ar y cynllun hir dymor cywir ar gyfer y gangen, a allai fod ar y safle presennol neu mewn lleoliad newydd gerllaw," meddai Mr Foden. 

Os bydd cynlluniau i symud i leoliad newydd, ychwanegodd bod hynny'n "anhebygol" o ddigwydd cyn gwanwyn 2026, ac y byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

'Cwestiynau'n parhau'

Dywedodd Mr Foden fod gan Mr Fleetwood 21 mlynedd o brofiad ym maes manwerthu a Swyddfa'r Post a bod tair cenhedlaeth o'i deulu wedi bod yn bost-feistri. 

“Dechrueodd taith RF Retail wrth i'w canolfan gyntaf agor yng ngogledd ddwyrain Lloegr ym Medi 2020," meddai.

Bydd y gangen yn parhau i weithredu ar y Maes yng Nghaernarfon am y tro, "gyda chwsmeriaid yn medru prynu yr un nwyddau a gwasanaethau o fewn yr un oriau agor."  

Dywedodd Liz Saville-Roberts AS : ‘’Rwy'n croesawu'r newyddion bod cwmni wedi dod ymlaen gyda'r bwriad o redeg Swyddfa'r Post Caernarfon, gan ddarparu ateb byr dymor i sefyllfa ansicr y gangen.    

“Tra bo'r cyhoeddiad hwn yn cynnig rhyw lefel o sicrwydd, mae nifer o gwestiynau'n parhau am ddyfodol hir dymor y gangen."

Ychwanegodd y bydd yn holi pa asesiadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer anghenion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.  

 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.