Newyddion S4C

'Aelod gwerthfawr': Ci therapi o Sir Gâr ar restr fer Gwobr Ci Ysgol y Flwyddyn

Dennis gyda disgybl Ysgol Heol Goffa

Mae ci therapi sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ci Ysgol y Flwyddyn. 

Cavapoo pedair oed ydi Dennis sy'n cefnogi disgyblion yn Ysgol Heol Goffa yn Llanelli i ddatblygu hyder a sgiliau chyfathrebu.

Bydd yn cael mynd i Gynghrair Cŵn Cenedlaethol y DU yn Llundain fis Gorffennaf lle y bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi.

Mae ei berchennog, Katie Rees, wedi bod yn gweithio yn yr ysgol am dros 12 mlynedd.

Yn ôl Pennaeth Ysgol Heol Goffa, Ceri Hopkins, mae Dennis yn "aelod gwerthfawr o'r tîm". 

"Rydym yn falch iawn o gael Dennis sy’n aelod gwerthfawr iawn o’n tîm gwych yma yn Ysgol Heol Goffa," meddai.

"Mae’n dod ag elfen arall i’n cwricwlwm therapiwtig - mae ei natur dawel a charismatig yn helpu disgyblion i ddatblygu hyder a chyfathrebu.

"Mae e hefyd yn helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau darllen."

Mae Dennis yn gweithio tri phrynhawn yr wythnos, am awr ar y tro, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'n gweld rhwng tri a phedwar disgybl. 

Cafodd ei hyfforddi gyda chynllun 'Burns By Your Side' a oedd yn cynnwys awr o hyfforddiant unwaith yr wythnos am 16 wythnos.

Mae'r ysgol yn dweud bod yr hyfforddiant wedi caniatáu iddo "gyrraedd y safonau uchaf o ran diogelwch ac ansawdd".

Blynyddoedd heriol

Daw llwyddiant Dennis yn dilyn blynyddoedd heriol i Ysgol Heol Goffa, gyda rhieni yno yn galw am ysgol newydd.

Mae lle i 75 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol yn Llanelli, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd.

Fis Mai dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Gâr dros addysg y bydd dau opsiwn ar gyfer ysgol newydd yn Llanelli yn cael eu hargymell i gabinet y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies y byddai'r opsiwn cyntaf yn ysgol ar gyfer 150 o ddisgyblion, gyda'r ail ar gyfer 250 o ddisgyblion.

Byddai'r ddau opsiwn yn golygu y byddai adeilad newydd Ysgol Heol Goffa yn fwy na'r cynllun gwreiddiol ar gyfer 120 o ddisgyblion.

Cafodd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn y dref ei gyhoeddi fis Chwefror.

Fe wnaeth yr adolygiad bwysleisio'r angen i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer cyflyrau'r sbectrwm awtistig (CSA) a chynnig chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori mae'r cyngor bellach wedi penderfynu argymell dau opsiwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.