Zia Yusuf yn dychwelyd i Reform UK ddeuddydd ar ôl ymddiswyddo fel cadeirydd
Mae Zia Yusuf wedi dychwelyd i Reform UK, 48 awr wedi iddo ymddiswyddo fel cadeirydd y blaid, gan ddweud fod ei ymddiswyddiad yn "gamgymeriad".
Yn ôl y dyn busnes 38 oed, blinder llethol oedd yn gyfrifiol am ei benderfyniad dridiau yn ôl, gan ei fod wedi gweithio am 11 mis "heb yr un diwrnod o seibiant".
Yn ôl arweinydd y blaid, Nigel Farage, bydd bellach yn arwain cynlluniau Reform i dorri ar wariant cyhoeddus, sef cynllun sy'n cael ei alw'n “UK Doge”, yn seiliedig ar gynllun arbed arian Llywodraeth America, a gafodd ei arwain gan y biliwnydd Elon Musk, cyn y ffrae rhyngddo â'r Arlywydd Trump.
Bydd Zia Yusuf hefyd yn cyfrannu ym meysydd polisi a chodi arian Reform UK yn ogystal ag ymddangosiadau ar y cyfryngau.
Rai oriau cyn ei ymddiswyddiad fel cadeirydd, fe feirniadodd Mr Yusuf aelod mwyaf newydd Reform yn San Steffan Sarah Pochin, ar ôl iddi ofyn cwestiwn i Syr Keir Starmer ar lawr Tŷ'r Cyffredin, yn ymwneud â gwahardd y wisg burka.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad brynhawn Iau, dywedodd Mr Yusuf nad oedd gweithio i ethol y blaid yn "ddefnydd da o fy amser" mwyach.
Dywedodd Nigel Farage, ei bod yn "wirioneddol ddrwg ganddo" bod Zia Yusuf yn ymddiswyddo, gan ychwanegu ei fod yn "hynod dalentog".
Yn ddiweddarach, dywedodd Mr Yusuf iddo deimlo nad oedd yn cael ei werthfawrogi gan rai yn y blaid, ar ôl camdriniaeth hiliol ar gyfrwng X.
Ychwanegodd mai "camgymeriad" oedd ei sylwadau am gwestiwn Ms Pochin.
Yn ôl y Blaid Lafur, mae'r ffaith bod Mr Yusuf yn dychwelyd i Reform yn profi pa mor anwadal yw'r blaid, ac na all bobl fforddio'r "risg o anhrefn economaidd gyda Reform UK".
Yn ôl cadeirydd y blaid, Ellie Reeves, mae hyn yn "profi mai plaid un dyn yw Reform, sef Nigel Farage".