Seren EastEnders wedi’i wahardd oherwydd iaith ‘annerbyniol’
Mae seren EastEnders, Jamie Borthwick, wedi’i wahardd o'i waith gan y BBC ar ôl defnyddio iaith sarhaus yn erbyn pobl ag anableddau ar set Strictly Come Dancing.
Fe wnaeth yr actor y sylw sarhaus fis Tachwedd diwethaf yn ystod ffilmio ar gyfer wythnos sioe ddawns y BBC yn Blackpool, yn ôl adroddiadau yn y Sun on Sunday.
Mae'r BBC wedi dweud fod ei iaith yn “hollol annerbyniol ac nad yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu’r gwerthoedd na’r safonau yr ydym yn eu cynnal ac yn eu disgwyl”.
Dywedodd y papur newydd fod Jamie Borthwick, sy’n chwarae rhan Jay Brown yn yr opera sebon, wedi ymddiheuro am achosi “unrhyw ofid”.
Yn ôl yr elusen anabledd Scope, dylai fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd ac addysgu ei hun.
Dywedodd rheolwr cyfryngau'r elusen, Warren Kirwan: “Rydym yn gobeithio y bydd yn manteisio ar y cyfle i ddod i adnabod realiti bywydau pobl anabl."
Yn ôl adroddiadau, roedd Jame Borthwick wedi gwneud y sylw sarhaus ar fideo ffôn, gefn llwyfan yn ystod ymarferion yn Neuadd Ddawns Tŵr Blackpool.
Yn ôl y sôn, roedd wedi defnyddio’r term i ddisgrifio pobl y dref glan môr.
Ymddiheuro
Yn ei ddatganiad i'r Sun on Sunday, dywedodd Borthwick: "Hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant ac o waelod calon am y geiriau a ddefnyddiais yn y fideo yn dangos fy ymateb i gyrraedd wythnos Blackpool ar Strictly.”Ychwanegodd: "Nid esgus yw hynny, ond nid oeddwn yn deall yn llawn y term difrïol a ddefnyddiais a'i ystyr.
"Fy nghyfrifoldeb yw hynny'n llwyr."Rwy'n ymwybodol nawr, rwy'n teimlo cywilydd mawr fy mod wedi defnyddio'r term a'i gyfeirio yn y ffordd y gwnes i."
Daw'r gwahardidad gan y gorfforaeth, ychydig dros wythnos wedi i'r canwr a'r darlledwr Wynne Evans ddweud nad yw ei gytundeb cyflwyno ar BBC Radio Wales wedi cael ei adnewyddu, ar ôl iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing.
Roedd y canwr opera o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ar ôl cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr, lle'r oedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw amhriodol.
Mewn datganiad, dywedodd y darlledwr: “Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’n ddiffuant.”
Llun: PA/BBC