Newyddion S4C

Craig Bellamy: ‘Dim eistedd nôl’ yn erbyn Gwlad Belg

Cymru v Liechtenstein

Mae prif hyfforddwr Cymru, Craig Bellamy, wedi addo na fydd ei dîm yn “eistedd yn ôl” yn eu gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Lun yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae’r gêm yn un dyngedfennol yn y grŵp gyda phêl-droedwyr Cymru ar frig Grŵp J yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Liechtenstein nos Wener.

Gêm gyfartal o 1-1 gafodd Gwlad Belg yn erbyn Gogledd Macedonia.

Wrth edrych ymlaen ar gyfer y gêm ym Mrwsel, dywedodd Bellamy: “Dydw i ddim yn eistedd yn ôl. Rydw i’n gyffro i gyd amdano.”

Dywedodd Bellamy nad oedd wedi synnu gyda’r canlyniad rhwng Gogledd Macedonia a Gwlad Belg ar ôl i Gymru hefyd gael gêm gyfartal o 1-1 yn Skopje. 

“Gall y gemau hyn ddigwydd. Dydyn nhw [Gwlad Belg] ddim wedi colli. Oeddwn i’n disgwyl iddyn nhw gael tri phwynt? Oeddwn. Ond, ie, chwaraeodd Gogledd Macedonia eu rhan, mor dda.”

Cymru a Gwlad Belg yw’r ffefrynnau i ennill y grŵp a chymhwyso’n awtomatig. Fe fydd y tîm sy’n dod yn ail yn chwarae mewn rowndiau ail gyfle.

Ergyd

Daeth ergyd i Gymru gyda’r newyddion na fydd yr amddiffynwr Neco Williams yn teithio i Frwsel wedi'r anaf i'w bigwrn gafodd nos Wener yn y gêm yn erbyn Liechtenstein. 

Ei obaith nawr, meddai Williams, yw bod yn holliach ar gyfer ymarfer cyn dechrau’r tymor gyda’i glwb Nottingham Forest.

Mae Dylan Lawlor o glwb Dinas Caerdydd wedi ei alw i garfan Bellamy. Mae Lawlor, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, wedi gwneud un ymddangosiad dros yr Adar Gleision, ac wedi cynrychioli Cymru dan 17, 19 a 21.

Mae 17 o gemau blaenorol wedi bod rhwng Cymru a Gwlad Belg mewn cystadleuaeth ryngwladol a ddechreuodd nôl ym 1949.

Mae Gwlad Belg wedi ennill saith o'r 17 gêm hynny gyda Chymru'n hawlio pum buddugoliaeth tra bod pum gêm gyfartal wedi bod.

Y tro diwethaf i’r gwledydd gyfarfod oedd ym mis Medi 2022 yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA wrth i Wlad Belg ennill o 2-1.

Fodd bynnag, 10 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon, fe sgoriodd Gareth Bale gôl gofiadwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i dîm Chris Coleman drechu Gwlad Belg 1-0 yng ngemau rhagbrofol EURO 16. Fe wnaeth Cymru eu curo eto o 3-1 yn rownd wyth olaf y bencampwriaeth flwyddyn yn ddiweddarach.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.