Pleidlais yn agor dros gyflogau gweithwyr iechyd
Mae pleidlais wedi agor ar gyfer nifer o weithwyr iechyd, er mwyn gweld a ydyn nhw'n dymuno streicio, oherwydd anfodlonrwydd am eu tâl.
Mae'r bleidlais ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy'n aelodau o Undeb Unite wedi agor ddydd Llun, gyda chynnig i fynd ar streic yn opsiwn.
Mae undeb Unite, sy'n cynrychioli gweithwyr mewn amrywiol feysydd yn y Gwasanaeth Iechyd, yn annog eu haelodau i wrthod y cynnydd o 3.6% yn eu tâl.
Mae'n nhw'n dadlau fod hynny yn is na graddfa chwyddiant, ac yn llai na'r hyn sydd wedi ei gynnig i feddygon a deintyddion. Yn ôl Unite, mae'r cynnydd hefyd yn llai na'r hyn sydd wedi ei gynnig i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn Yr Alban.
Mae pleidlais hefyd wedi agor ar gyfer aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ddydd Llun. Bydd modd iddyn nhw nodi a yw'r cynnydd o 3.6% yn eu tâl yn ddigon.
Yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae'r cynnig 0 3.6% yn "warthus," ac mae'n nhw'n dadlau y caiff "ei lyncu gan chwyddiant".
Maen nhw'n dadlau bod meddygon, athrawon, swyddogion carchar a'r lluoedd arfog yn derbyn cynnydd uwch.
Yn ôl Coleg Nyrsio'r RCN, mae'r bleidlais yn allweddol er mwyn penderfynu ar y camau nesaf, a allai gynnwys pleidlais ar streicio.
Wrth gyfeirio at y cynnydd o 3.6%, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y dyfarniad cyflog hwn yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi cyfraniad gweithwyr iechyd, a bod y llywodraeth wedi "derbyn argymhellion adroddiad annibynnol, a gafodd eu cyflwyno gan Gorff Adolygu Tâl y GIG".
'Sarhaus'
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dioddef oherwydd sefyllfa argyfyngus yn sgil prinder staff.
"Mae miloedd yn gadael y gwasanaeth, ac mae'r rhai sy'n dal yno bron â chyrraedd pen eu tennyn. Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn sarhaus i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd."
Yn ôl Unite, ers 2010, mae gweithwyr yng Nghymru a Lloegr wedi colli rhwng traean a hanner eu cyflog mewn termau real.
Os yw aelodau Unite yn pleidleisio dros wrthod y cynnig ariannol o 3.6%, a dros weithredu'n ddiwydiannol, mae'r undeb yn dweud y bydd union ddyddiadau'r streiciau a'r lleoliadau yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn haeddu cydnabyddiaeth deg ac mae’r dyfarniad cyflog hwn, sy’n dyddio’n ôl i fis Ebrill, yn dangos ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.
“Rydym yn cydnabod cryfder teimladau aelodau undeb dros gyflog ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i fynd i’r afael â’n huchelgais o adfer cyflogau yn y tymor hir mewn cyd-destun ariannol heriol iawn i Gymru.”