Newyddion S4C

Gwaharddiad Donald Trump ar fynediad i America bellach mewn grym

Donald Trump

Mae gorchymyn yr Arlywydd Trump yn gwahardd pobl o 12 gwlad rhag cael mynediad i America bellach mewn grym.

Mae hynny'n golygu, o ddydd Llun ymlaen, nad oes hawl gan bobl o Affganistan, Myanmar, Chad, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Guinea Gyhydeddol, Eritrea, Haiti, Iran, Libya, Somalia, Sudan a Yemen deithio i America.

Yn ôl yr Arlywydd "amddiffyn Americanwyr rhag pobl peryglus o dramor" yw'r nod.

Mae pobl o saith gwlad arall yn wynebu cyfyngiadau teithio rhannol sef Ciwba, Venezuela, Burundi, Laos, Sierra Leone, Togo, a Turkmenistan.

Mae rhai eithriadau, yn cynnwys athletwyr sy'n teithio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr, rhai dinasyddion o Affganistan a phobl â chenedligrwydd deuol sydd â dinasyddiaeth mewn gwledydd sydd ddim ar y rhestr.   

Wrth gyhoeddi'r gwaharddiad, cyfeiriodd yr Arlywydd Trump at yr ymosodiad yn Colorado ddydd Sul, 1 Mehefin. 

Mae dyn yn Colorado wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad ar grŵp o brotestwyr a oedd yn cefnogi gwystlon o Israel.

Y gred yw fod y dyn a'i deulu yn ddinasyddion o'r Aifft. 

Dywedodd Mr Trump fod yr ymosodiad yn amlinellu'r "peryglon eithafol" wrth i ddinasyddion tramor gael mynediad i America heb archwiliad trylwyr.  

Ond dyw'r Aifft ddim ar y rhestr o'r gwledydd sydd wedi eu gwahardd gan Donald Trump. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.