Newyddion S4C

Atal perchennog ci a gafodd ei ddarganfod heb 70% o'i ffwr rhag cadw anifeiliaid

Shiloh

Mae perchennog ci a gafodd ei ddarganfod mewn cyflwr truenus a heb 70% o’i ffwr wedi ei atal rhag cadw anifeiliaid am oes.

Fe ymddangosodd Chris Lee Bufton, sy’n 43 oed, o Fernhill, Aberpennar, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher.

Pleidiodd yn euog i ddwy drosedd dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Penderfynodd ynadon ei fod wedi achosi dioddefaint diangen i’w gi, Shiloh.

Clywodd y llys ei fod wedi achosi dioddefaint diangen i Shiloh drwy fethu ag ymchwilio i’w chlefyd croen.

Roedd hefyd wedi methu â’i hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf neu glefyd drwy fethu â darparu triniaeth ddigonol ar gyfer llygaid sych a chwain.

Clywodd y llys ei fod yn derbyn na all ofalu am anifeiliaid yn effeithiol.

Image
Shiloh
Shiloh

Daeth dioddefaint yr anifail i’r amlwg pan alwodd y Dirprwy Brif Arolygydd (DCI) Gemma Cooper draw yn y tŷ i ymateb i adroddiad am gi oedd â chroen drwg.

Dywedodd DCI Cooper, wrth iddi fynd i mewn i’r eiddo yn Fernhill ei bod wedi gweld Shiloh wedi'i lapio mewn blanced yn y cyntedd. 

“Roedd hi wedi cwympo, yn methu sefyll ac wedi colli tua 70 y cant o’r ffwr ledled ei chorff, gan ddatgelu croen trwchus, pinc/coch, llidus,” meddai.

“Roedd ganddi ollyngiad gwyrdd yn y ddwy lygad a chwain yn byw yn yr ychydig ffwr oedd ganddi.

“Roedd Shiloh yn edrych mewn cyflwr ofnadwy ac roeddwn i wir yn teimlo drosti.”

Cytunwyd i drosglwyddo Shiloh i'r RSPCA ym Merthyr Tudful i'w harchwilio. 

Fe wnaeth y milfeddyg y penderfyniad i'w rhoi i gysgu i atal dioddefaint pellach.

Fe gafodd Chris Lee Bufton ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar am y drosedd gyntaf - a ohiriwyd am 18 mis, ac am yr ail drosedd cafodd ei ddedfrydu i wyth wythnos o garchar (a fydd yn rhedeg ar yr un pryd), a ohiriwyd hefyd am 18 mis.

Cafodd Ofyniad Gweithgaredd Adsefydlu 10 diwrnod a Gofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl 12 mis a gorchmynnwyd iddo dalu £500 mewn costau a gordal dioddefwr o £154. Cafodd ei wahardd hefyd rhag cadw anifeiliaid am oes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.