Newyddion S4C

Tafod Glas: Cyhoeddi cyfyngiadau newydd ar symud da byw o Loegr i Gymru

Tafod Glas

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfyngiadau newydd ar symud da byw o Loegr i Gymru er mwyn ceisio dal clefyd y Tafod Glas “yn ôl cyn hired ag y gallwn.”

Bydd angen i wartheg, defaid a geifr brofi’n negatif am y clefyd cyn y gellir eu cludo ar draws y ffin o Loegr i Gymru.

Mae’r Tafod Glas wedi lledu ar draws rhannau helaeth o Loegr yn barod ond nid yw’r un achos wedi ei ddarganfod yng Nghymru.

Mae Aled Jones, Llywydd NFU Cymru yn dweud bod angen "sicrwydd" gan Lywodraeth Cymru bod yr adnoddau ganddyn nhw i ddelio gyda'r galw mawr am brofion am y feirws.

"Rydym yn cydnabod bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd ei wneud," meddai.

"Mae llawer o bethau ansicr am sut y gall y feirws effeithio ein gwartheg a defaid ar draws Cymru.

"Fodd bynnag, mae gennym ni bryderon sylweddol ynghylch y diffyg adnoddau a chapasiti o fewn y labordai a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i gyflawni yn erbyn y galw posibl am brofi a thrwyddedu pob anifail.

"Rydym wedi codi'r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ac yn parhau i geisio sicrwydd bod modd cyflawni'r polisi hwn yn ymarferol."

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod y cyfyngiadau newydd yn "anymarferol" ac yn creu costau ychwanegol "afresymol" i ffermwyr.

"Nid yw'r pryfaid sy'n cario'r firws yn parchu ffiniau," meddai Llywydd yr undeb, Ian Rickman.

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ei fod yn deall y bydd y penderfyniad yn siomi rhai.

“O ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ac adborth gwerthfawr y sectorau milfeddygol a da byw, fy mhenderfyniad yw ceisio dal y clefyd yn ôl cyn hired ag y gallwn,” meddai.

“Rwy'n sylweddoli y bydd rhai sectorau o'r diwydiant yn cael eu siomi ac rwy'n cydnabod y bydd gofynion trwyddedu, costau profi da byw a phwysau masnachol eraill yn deillio o fy mhenderfyniad. 

“Rwyf hefyd yn ymwybodol ein bod yn wynebu darlun deinamig ac esblygol o'r clefyd ym Mhrydain Fawr, a'n bod yn delio â chlefyd a gludir gan wybed, sy'n dymhorol ei natur.”

'Unol'

Mae’r Sioe Frenhinol, eisoes wedi gwahardd cystadleuwyr o Loegr a’r Alban eleni oherwydd y tafod glas.

Oherwydd cyfyngiadau’r tafod glas ni fydd arddangoswyr o’r Alban a Lloegr yn cael dod a’u da byw i’r sioe y flwyddyn hon.

Dywedodd trefnwyr y Sioe Frenhinol, fydd yn cael ei chynnal rhwng 21-24 Gorffennaf, eu bod nhw wedi penderfynu gwahardd cystadleuwyr da byw rhag teithio drwy unrhyw barth tafod glas er mwyn cyrraedd y safle.

O 1 Gorffennaf bydd Lloegr gyfan hefyd yn un o’r parthau hynny.

Mae hynny’n golygu na fydd yna arddangoswyr o Loegr na’r Alban yn cael cystadlu.

Mae sioe'r Royal Highland sy’n digwydd y mis yma eisoes wedi cymryd penderfyniad tebyg.

Dywedodd prif weithredwr y Sioe Frenhinol, Aled Rhys Jones, eu bod nhw’n “siomedig" eu bod nhw wedi gorfod gwneud y penderfyniad.

Dywedodd: “Dyna’r peth mwyaf cyfrifol i wneud. Da ni wedi bod yn dilyn y wyddoniaeth, dilyn y cyngor milfeddygol.

“Ac mi’r ydan ni’n unol â’r sioeau eraill.”

Yn yr adran ddefaid mae tua 18% yn dod o’r tu allan i Gymru. Ond mae’r Sioe Frenhinol yn gweithio trwy restr aros yn y gobaith o wahodd mwy o arddangoswyr o Gymru.

Fel arfer mae tua 40% o’r gwartheg yn dod o du allan i Gymru, meddai Mr Jones, ac y bydd yna rywfaint o golled i’r sioe o ganlyniad i golli’r ffi gofrestru.

Beth yw tafod glas?

Mae'r tafod glas yn glefyd hysbysadwy a achosir gan haint â firws y tafod glas. Mae’r firws yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.

Mae firws y tafod glas yn effeithio ar ddefaid, gwartheg, cilgnowyr eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.

Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.

Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.