Newyddion S4C

'Rhaid codi ein llais': Cynnal gigiau i godi arian ar gyfer ysgol yn Gaza

Gigio dros Gaza

Bydd nifer o gigiau yn cael eu cynnal yn y gogledd dros yr haf i godi arian ar gyfer ysgol yn Gaza.

Ymhlith y cerddorion fydd yn perfformio mae Bwncath, Bryn Fôn, John ac Alun, Phil Gas a'r Band, Gwenan Gibbard a Gwilym Bowen Rhys.

Y bwriad ydi codi arian ar gyfer Ysgol Sumud a gafodd ei sefydlu ym mis Rhagfyr gyda chefnogaeth y grŵp West Wales Friends of Palestine.

Daeth y syniad i gynnal gigiau gan Richard Parry Hughes, ffermwr o Lwyndyrys ger Pwllheli yng Ngwynedd, yn sgil pryderon am y sefyllfa yno.

Ers ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddodd y grŵp tua 1,200 o Israeliaid a chymryd tua 250 o bobl yn wystlon, mae arweinwyr Israel wedi addo dial ar swyddogion Hamas.

Yn y flwyddyn a hanner ers hynny, mae o leiaf 50,000 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu gan luoedd Israel yn Gaza, yn ôl Unicef.

Y gred yw bod miloedd o blant eraill ar goll o dan y rwbel ac yn cael eu hystyried yn farw.

Ac mae'r plant sydd wedi goroesi, yn ôl yr elusen, wedi’u dadleoli ac yn byw â thrawma.

'Rhaid codi ein llais'

Mae Ysgol Sumud - sy’n golygu "dyfalbarhad" yn Arabeg - yn darparu addysg, cwnsela a bwyd i dros 200 o blant tair gwaith yr wythnos.

Roedd yr ysgol babell wedi'i lleoli yn Deir Al-Balah yng nghanol Gaza, ond mae hi bellach wedi cael ei gorchymyn i adael yr ardal.

Image
Ysgol Sumud
Disgyblion Ysgol Sumud yng nghanol Gaza

Dywedodd Mr Parry Hughes ei fod yn gobeithio codi o leiaf £2,000 er mwyn prynu ail babell ar gyfer yr ysgol.

Byddai pabell ychwanegol yn galluogi'r ysgol i ddyblu ei chapasati, gan gynyddu nifer ei disgyblion o 200 i 500.

"'Da ni'n meddwl os fedra ni roi wbath fel ysgol iddyn nhw, mae o'n wbath iddyn nhw ddod at ei gilydd," meddai wrth Newyddion S4C.

"'Da chi'n gweld yn y llunia gymaint maen nhw'n gwenu ac yn mwynhau eu hunain pan maen nhw yn y babell yn gwneud gwaith ysgol.

"Mae'n helpu nhw efo'i iechyd meddwl a sut i ddygymod â thrawma mawr."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cyfrannu at gynnal yr ysgol hefyd.

Image
Richard Hughes
Mae Richard Parry Hughes a Dr Gwyn Williams o Gapel Siloh, Chwilog wedi bod yn codi arian ar gyfer plant yn Gaza

Yn ôl Mr Parry Hughes, mae angen i Gymry Cymraeg "godi ein llais".

"Be' dwi'n neud ydi cefnogi'r bobl ddiniwad sy'n ganol trais ac yn ganol rhyfel," meddai.

"Mae o'n erchyll i wylio ac mae'n rhaid ni neud bob dim fedra ni i stopio hyn.

"Mae angen i ni fel Cymry Cymraeg godi ein llais."

Mae sawl mudiad arall ar draws Cymru hefyd yn codi arian ar gyfer yr ysgol.

 

Lle fydd y gigiau?

Gwenan Gibbard, Gwilym Bowen Rhys - Nos Wener 20 Mehefin 

Tafarn yr Iorwerth, Bryngwran, Ynys Môn

 

Bryn Fôn a'i Ffrindiau, Phil Gas a'r Band, John ac Alun - Nos Wener 11 Gorffennaf 

Crasu Coed, Rhoshirwaun, Gwynedd

 

Bwncath, Bryn Fôn a'i Ffrindiau - Nos Sadwrn, 4 Hydref

Neuadd y Farchnad, Caernarfon, Gwynedd

 

Y Moniars - Dyddiad i'w gadarnhau

Tafarn Y Madryn, Chwilog, Gwynedd

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.