Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Fangor ar ôl gyrru'n 'beryglus' wrth geisio ffoi rhag yr heddlu

Carchar i ddyn o Fangor ar ôl gyrru'n 'beryglus' wrth geisio ffoi rhag yr heddlu

Mae dyn o Fangor wedi ei garcharu ar ôl ceisio gyrru i’r cyfeiriad anghywir ar ffordd yr A55 wrth ffoi rhag yr heddlu.

Fe blediodd Nathan Raymond Williams, 29 oed, o Ffordd Tan y Bryn, Maesgeirchen, yn euog i sawl trosedd yrru, gan gynnwys gyrru’n beryglus a gyrru ar ôl cael ei wahardd.

Mae fideo, sydd wedi ei ryddhau gan Heddlu Gogledd Cymru, yn dangos car Alfa Romeo yn cael ei yrru gan Williams, drwy’r ddinas toc wedi 17.00 ar ddydd Sul 12 Ionawr.

Wrth yrru ar Ffordd Garth, fe wnaeth swyddog yr heddlu o Uned Troseddau’r ffyrdd sylwi bod y cerbyd yn goryrru ar Ffordd Glynne.

Fe wnaeth y swyddog ymgais i orfodi’r cerbyd i stopio, ond fe wnaeth Williams barhau i yrru ar gyflymder, drwy’r Stryd Fawr cyn gyrru drwy golau coch ar Ffordd Farrar.

Gan gyrraedd cyflymder o dros 60mya a goddiweddyd sawl cerbyd arall ar Ffordd Caernarfon, fe wnaeth Williams yrru’r car ar ffordd anghywir cylchfan ger Tesco, cyn croesi’r llain ganol ac ar ffordd ymuno’r A55 tua’r dwyrain.

Yna, fe wnaeth geisio troi i’r dde ar y ffordd, i’r cyfeiriad anghywir, cyn i’r swyddog heddlu benderfynu taro’r car gyda’i gerbyd er mwyn ei orfodi i stopio.

Fe gafodd Williams ddedfryd o 52 wythnos yn y carchar, a gwaharddiad o bum mlynedd a thri mis rhag gyrru.

Dywedodd PC Robert Williams o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Roedd Williams yn gyrru’n beryglus iawn y noson honno’n a gallai fod wedi achosi digwyddiad difrifol, os nad angheuol, yn hawdd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.