Newyddion S4C

Ymchwiliadau'n parhau i ddamwain awyren Air India

Damwain Air India

Mae ymchwiliadau’n parhau ddydd Gwener i ddamwain awyren Air India a oedd ar ei ffordd i Lundain gyda 242 o bobl ar ei bwrdd.

Roedd yr awyren yn teithio o Ahmedabad i Gatwick ac yn cario 53 o deithwyr o Brydain cyn iddi blymio i'r ddaear pum munud ar ôl cychwyn y daith.

Dywedodd Air India mai dim ond un person - dyn o Brydain - sydd wedi goroesi wedi i'r awyren daro coleg meddygol yn Ahmedabad.

Dywedodd Air India roedd 169 o bobl o India, 53 o Brydain, saith o Bortiwgal ac un o Ganada ar yr awyren.

Dyma un o'r damweiniau awyren waethaf o ran nifer y dinasyddion Prydeinig a gafodd eu lladd a'r cyntaf yn ymwneud ag awyren Boeing 787.

A dros y dyddiau nesaf mae disgwyl i nifer y bobl a gafodd eu lladd i godi.

Roedd lluniau yn dilyn y digwyddiad yn dangos malurion o'r awyren ar ben adeilad Coleg Meddygol BJ.

Cafodd o leiaf wyth o bobl eu lladd nad oedd ar fwrdd yr awyren sef pedwar o fyfyrwyr meddygol y coleg a phedwar o ymwelwyr.

Cafodd tua 50 o bobl eu hanafu.

Y gred yw mai'r Prydeiniwr Vishwash Kumar Ramesh, 40, oedd yr unig un a oroesodd y ddamwain.

Image
Vishwash Kumar Ramesh yn yr ysbyty. Llun: Hindustan Times
Roedd Mr Ramesh yn eistedd yn sedd 11A ger un o allanfeydd brys yr awyren

Wrth siarad y tu allan i gartref y teulu yn Leicester, dywedodd ei frawd, Nayan Kumar Ramesh, 27: "Cawsom sioc cyn gynted ag y clywsom ef.

"Siaradais ag ef ddiwethaf fore ddoe. Rydym wedi ein dinistrio'n llwyr, wedi ein dinistrio'n llwyr.

"Dywedodd 'does gen i ddim syniad sut y gwnes i adael yr awyren'."

'Calonnau wedi torri'

Roedd Akeel Nanabawa - dyn busnes 35 oed a gafodd ei fagu yng Nghasnewydd - ei wraig, Hannaa Vorajee a'u merch bedair oed, Sara, ymhlith y 53 o Brydeinwyr a fu farw yn y ddamwain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gloucestershire Muslim Bereavement Council fod eu "calonnau wedi torri".

Image
Akeel Nanabawa a'i deulu
Akeel Nanabawa gyda'i wraig Hannaa Vorajee a'u merch Sara

"Yn ystod y cyfnod yma o dristwch llethol, mae'n meddyliau gyda phawb sydd wedi eu gadael ar ôl," meddai'r llefarydd.

"Ni all unrhyw eiriau leddfu'r boen wedi cymaint o golled, ond rydyn ni'n gweddïo y gall y teulu dderbyn rhywfaint o gysur o weld y tosturi a'r gefnogaeth gan gymunedau o ar draws y byd."

Hefyd ymhlith y meirw mae'r cwpl Prydeinig Fiongal a Jamie Greenlaw-Meek, oedd yn rhedeg canolfan lles ysbrydol.

Fe wnaeth Mr Greenlaw-Meek ymddangos ar This Morning ar ITV yn gynharach eleni, a chanmolodd cyn-olygydd y rhaglen Martin Frizell ei "frwdfrydedd".

"Mor drist clywed bod Fiongal Greenlaw-Meek a'i bartner yn cael eu hadrodd i fod ymhlith y teithwyr a'r criw a laddwyd heddiw ar fwrdd yr awyren Air India a oedd yn mynd i Gatwick," meddai mewn neges ar Instagram.

"Rwy'n cofio ei ymweliad â'r stiwdio ym mis Ionawr, roedd yn angerddol am awras ac er fy mod yn amheus, fe wnaeth ei fywiogrwydd a'i frwdfrydedd ennill pobl drosodd."

Mae arbenigwyr yn y diwydiant awyrennau wedi dyfalu am nifer o achosion posibl ar gyfer y ddamwain, o fethiant y ddau injan - o bosibl oherwydd gwrthdrawiad ag aderyn - i'r fflapiau ar adenydd yr awyren heb eu gosod yn y safle cywir.

Fe wnaeth Prif Weinidog India, Narendra Modi, ymweld â safle'r ddamwain ac ysbyty lleol fore Gwener.

"Mae colli cymaint o fywydau mewn modd mor sydyn a thorcalonnus y tu hwnt i eiriau. Rwy'n cydymdeimlo â'r holl deuluoedd sy'n galaru," meddai mewn neges ar X.

"Rydym yn deall eu poen ac yn gwybod hefyd y bydd y gwagle sydd wedi ei adael yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod."

Fe wnaeth prif weithredwr Air India, Campbell Wilson, hefyd ymweld â'r safle, ond ni atebodd gwestiynau gan y cyfryngau.

Dywedodd Grŵp Tata, sy'n berchen ar Air India, y bydd yn cynnig tua £86,000 i deuluoedd pob person a fu farw yn y ddamwain.

Bydd y cwmni hefyd yn talu costau meddygol y rhai a gafodd eu hanafu.

 
 
 
 
 

 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.