The Vivienne: Crwner yn cofnodi marwolaeth drwy anffawd
Mae crwner wedi cofnodi mai anffawd oedd achos marwolaeth y seren drag The Vivienne a hynny ar ôl iddyn nhw ddioddef ataliad cardio-anadlol ar ôl cymryd cetamin.
Fe gafodd James Lee Williams, 32, enillydd y gyfres RuPaul’s Drag Race UK, eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Sir Gaer ar ddydd Sul 5 Ionawr.
Y tro diwethaf i unrhyw un fod mewn cysylltiad â nhw oedd y nos Wener cynt, pan ddywedodd eu ffrind, Bobby Musker, wrth Lys Crwner Warrington ei bod yn amlwg bod y seren drag o Fae Colwyn wedi cymryd cetamin.
Fe glywodd y cwest i farwolaeth Jamees Lee Williams fod pum bag o gyffuriau wedi'u darganfod yn eu cartref, gan gynnwys mewn drôr ystafell wely a bin yn yr ystafell ymolchi.
Er bod y seren drag wedi cael trafferth gyda chyffuriau yn y gorffennol, dywedodd teulu Williams wrth y gwrandawiad na ddylen nhw gael eu cofio am eu defnydd o cetamin ac nad oedd cyffuriau'n diffinio pwy oedden nhw.
Fe glywodd y gwrandawiad nad oedd gan ffrindiau a theulu Williams unrhyw bryderon am eu hiechyd meddwl.
Roedd yn edrych ymlaen at rolau yn y dyfodol ar y teledu ac yn y theatr, er iddo gymryd cetamin "o bryd i’w gilydd".
Wrth gloi’r cwest, dywedodd Jacqueline Devonish, uwch grwner Sir Gaer: "Achos meddygol y farwolaeth yw ataliad cardio-anadlol oherwydd defnydd cetamin.
"Ar ôl pwyso a mesur tebygolrwydd, rwy’n cofnodi mai anffawd oedd marwolaeth James Williams.
"Fe gymerodd cetamin ond nid oedd yn bwriadu dod â'u bywyd i ben."
Williams oedd enillydd cyfres gyntaf RuPaul’s Drag Race UK a blynyddoedd yn ddiweddarach cyfaddefodd eu bod nhw yn yn gaeth i gyffuriau.
Dywedodd swyddog o lys y crwner wrth y cyfryngau y byddai'r teulu yn hoffi i’r cyfryngau ddefnyddio'r rhagenw "nhw" ar gyfer James Lee Williams.
Llun: PA