Newyddion S4C

Dyn 92 oed yn euog o lofruddiaeth a threisio bron i 60 mlynedd ers y troseddau

Achos llys treisio Bryste

Mae dyn 92 oed wedi ei gael yn euog o dreisio a llofruddio dynes bron i 60 mlynedd ers iddi gael ei lladd.

Y gred yw mai dyma'r achos hiraf erioed yn y Deyrnas Unedig, a oedd yn dal yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, ond heb ei ddatrys.

Roedd Ryland Headley, oedd yn 34 oed ar y pryd wedi torri mewn i dŷ Louisa Dunne, a oedd yn 75 oed, ym Mryste ym mis Mehefin 1967.

Ymosododd arni a chafodd ei chorff ei ddarganfod gan ei chymdogion yn ei thŷ ar Ffordd Britannia ar fore 28 Mehefin.

Roedd Mrs Dunne yn fam i ddau o blant, yn wraig weddw ac yn byw ar ei phen ei hun . 

Cafodd sŵn sgrechian ei glywed oriau cyn iddi gael ei darganfod yn farw.

Roedd hi'n gorwedd ar hen ddillad pan gafodd ei chorff ei ddarganfod.

'Rhyfedd iawn'

Ni chafodd yr achos ei ddatrys am 50 mlynedd hyd nes i dditectifs o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf anfon eitemau o'r ymchwiliad gwreiddiol am brofion DNA.

Cafodd profion fforesig eu cynnal ar sgert las Mrs Dunne fis Mai y llynedd.

Roedd DNA o'r sgert yn cyfateb i Headley. Ar sail y canlyniadau roedd  hi "biliwn gwaith yn fwy tebygol mai ei DNA e oedd yno, yn hytrach na DNA rhywun arall."

Roedd Headley yn gweithio ar y rheilffyrdd ar y pryd, ac yn byw gyda'i wraig tua milltir a hanner o gartref Mrs Dunne. 

Symudodd i Suffolk ar ôl y llofruddiaeth, a threuliodd gyfnod mewn carchar am dreisio dwy ddynes hŷn yn 1977.

Image
Sgert Louisa Dunne
Sgert Louisa Dunne

Pan gafodd Headley ei arestio yn ei gartref yn Ipswich fis Tachwedd y llynedd ar amheuaeth o lofruddio Mrs Dunne, dywedodd wrth dditectifs: “Dydw i ddim yn gwybod am beth rydych chi'n siarad. Rhyfedd iawn, rhyfedd iawn.”

Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau ond cafodd ei ddyfarnu'n euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Bryste ddydd Llun.

Nid oedd wedi cyflwyno tystiolaeth yn ystod yr achos.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Sweeting wrth y rheithgor y byddai’n dedfrydu Headley am y ddwy drosedd fore Mawrth.

“Roedd hwn yn achos sydd wedi bod o ddiddordeb i'r cyhoedd," meddai.

“Roedd yn cynnwys llawer o fanylion sydd heb os yn peri gofid. Os cewch eich galw eto yn y 10 mlynedd nesaf i wasanaethu ar reithgor, mae gennych hawl i wrthod,” dywedodd wrth y rheithgor. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.