Dyn yn pledio'n euog wedi ymosodiad ci ar blentyn yng Nghaernarfon
Mae dyn wedi pledio'n euog i fod â chi allan o reolaeth a achosodd anaf difrifol i blentyn yng Nghaernarfon fis Awst diwethaf.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau bod y ci ym meddiant Ian Parry, 45 oed, pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar stryd Penrallt Uchaf yn y dref ar 11 Awst y llynedd.
Yn gwisgo crys-t gwyn, sbectol a throwsus lliw hufen, siaradodd Mr Parry i gadarnhau ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni a'i ble yn ystod y gwrandawiad.
Cafodd Mr Parry ei gyhuddo o fod yn berchen ar gi XL Bully oedd allan o reolaeth gan achosi anaf difrifol, yn groes i adran 3(1) a (4) o'r Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.
Dywedodd Eurgain Lloyd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yr achos yn un mor ddifrifol fel bod angen iddo gael ei gyfeirio i Lys y Goron.
Roedd yr ymosodiad wedi arwain at blentyn yn colli bawd ei law dde a nifer o anafiadau eraill.
Dywedodd cyfreithiwr Ian Parry, Harriet Gorst, bod ei chleient yn pledio'n euog ar y sail nad oedd archwiliad o'r ci gan arbennigwr ar ran yr amddiffyniad wedi gallu dod i'r casgliad mai XL Bully oedd union frîd y ci dan sylw.
Ychwanegodd nad oedd hyn yn tanseilio difrifoldeb y digwyddiad, ond fe ddylai ddylanwadu ar y ddedfryd ym marn yr amddiffyniad.
Cytunodd mai mater i Lys y Goron i ddelio ag o oedd yr achos yma.
Cyfeiriodd yr ynadon yr achos i Lys y Goron Caernarfon ar gyfer gwrandawiad dedfrydu ar 25 Gorffennaf.