Newyddion S4C

Y Rhyl: Dwy wedi eu cludo i'r ysbyty a dyn yn y ddalfa ar amheuaeth o ymgais i lofruddio

Cilgaint Meredith

Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn 37 oed ar amheuaeth o ymgais i lofruddio ar ôl i ddwy ddynes ddioddef anafiadau mewn eiddo yn Y Rhyl.

Dywedodd y llu bod swyddogion wedi eu galw i eiddo yng Nghilgant Meredith ychydig wedi 09:30 bore dydd Iau yn dilyn adroddiadau o glwyfo.

Daeth swyddogion o hyd i ddwy ddynes oedd wedi “dioddef anafiadau”.

Cafodd y ddwy eu hasesu yn y fan a'r lle gan barafeddygon.

Cafodd un ohonyn nhw ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, tra bod y llall wedi'i chludo mewn ambiwlans i gael triniaeth feddygol bellach.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi arestio’r dyn 37 oed yn y fan a’r lle mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd y llu: “Nid oes unrhyw fygythiad parhaus i'r cyhoedd yn ehangach.

“Mae gwarchod y safle yn parhau tra bod swyddogion fforensig yn cynnal ymholiadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.