Sir Benfro: Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur elusen cludo gwaed
Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus wedi i feiciwr modur elusen cludo gwaed yn ei 70au farw mewn gwrthdrawiad ger Crymych yn Sir Benfro.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ffordd a ddigwyddodd ar yr A478 ym Mhentregalar rhwng Croes Glandy a Blaenffos am tua 18:25 ddydd Mercher.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â fan Volkswagen a beic modur Honda a oedd yn cario gwaed i elusen Beiciau Gwaed Cymru.
Bu farw'r dyn yn ei 70au a oedd yn gyrru'r beic modur yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe gafodd y dyn 56 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Fe gafodd y ffordd ei chau dros nos tra bod ymchwilwyr gwrthdrawiad arbenigol yn cwblhau ymholiadau. Mae hi bellach wedi ail-agor.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000544479.