Newyddion S4C

Pêl-droedwraig a symudodd i'r UDA yn gobeithio am 'fwy o gyfleoedd' yng Nghymru wedi'r Euros

Pêl-droedwraig a symudodd i'r UDA yn gobeithio am 'fwy o gyfleoedd' yng Nghymru wedi'r Euros

Wrth i fenywod Cymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn yr Euros ddydd Sadwrn, mae pêl-droedwraig ifanc o Aberdâr yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn creu mwy o gyfleoedd i ferched yn y gamp. 

Pan ddechreuodd Indie Morgan chwarae pêl-droed i glwb lleol y Gadlys Rovers yn 12 oed, roedd yn rhaid iddi chwarae fel aelod o dîm y bechgyn. 

A hithau bellach yn 20 oed, mae Indie wedi symud i’r Unol Daleithiau er mwyn chwarae pêl-droed tra'n astudio yno. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “O’n i wastad wedi gwybod doeddwn i ddim eisiau aros yng Nghymru neu Loegr i astudio a wnes i sylweddoli oedd ‘na fwy o gyfleoedd tramor – yn enwedig gyda phêl-droed a chwaraeon.” 

Yn 13 oed, aeth Indie gyda’i thad John Morgan i Birmingham am brawf ar gyfer asiant pêl droed. 

“Fi oedd y ieuangaf yna. Roedd y lle yn llawn dynion yn eu 20au ac un neu ddwy o ferched. O’n i mor nerfus,” meddai. 

Yn 2023, fe symudodd Indie i Fort Lauderdale yn nhalaith Florida wedi iddi ennill ysgoloriaeth i astudio yno drwy chwarae pêl-droed.

Mae hi'n obeithiol y bydd mwy o ferched yn penderfynu chwarae pêl-droed ar ôl gweld Cymru yn cystadlu yn yr Euros. 

Ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n creu mwy o gyfleoedd i ferched a menywod yn ei mamwlad hefyd.

Image
Indie
Indie yn chwarae ar ran ei thim pel-droed yn y brifysgol, y Siarcod (Sharks) 

'Cefnogaeth'

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae nifer y menywod a merched sy’n chwarae pêl-droed yng Nghymru wedi cynyddu 52% yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. 

Roedd 12,724 o chwaraewyr wedi eu cofrestru i chwarae yn 2021/22 ac roedd hyn wedi codi i 19,345 o chwaraewyr erbyn 2024/25. 

Cyn iddi symud i’r Unol Daleithiau roedd Indie wedi chwarae dau dymor gyda chlwb pêl-droed Caerdydd. 

Aeth i dreialon ar gyfer tîm pêl-droed Cymru ond roedd hi’n pryderu am brinder cymorth i helpu chwaraewyr i ddatblygu, esboniodd. 

Image
Indie Morgan

“Does ‘na ddim tîm dan-21 neu dan-22 ar gyfer y menywod felly mae ‘na naid eithaf mawr o dîm y dan-19 i’r brif dîm.

“Mae’r dynion efo gap,” esboniodd Indie, gan fod yna dîm pêl-droed Cymru dan-21 ar eu cyfer. 

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn dweud bod hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa yn rhyngwladol. 

Gan hepgor prif dimau’r menywod, y grwpiau hynaf i gystadlu gyda FIFA yw’r menywod dan-20 yng Nghwpan y Byd y menywod dan-20, a’r hynaf i gystadlu gyda UEFA ydy’r tîm dan-19 yn yr Ewros i fenywod dan-19, esboniodd.

Image
Indie Morgan

Datblygu

Wedi iddi symud i’r UDA er mwyn chwarae pêl-droed ac astudio gradd mewn seicoleg ym mhrifysgol Nova Southeastern yn 2023, fe wnaeth chwaer iau Indie, Mycah Morgan, ei dilyn i’r wlad y llynedd drwy’r un asiant. 

“Mae fi a Mycah wastad wedi ‘neud yr un peth yn ystod ein magwraeth, roedd hi’n chwarae pêl-droed yn union fel o’n i,” medd Indie. 

Mae eu hysgoloriaethau yn eu caniatáu iddynt chwarae pêl-droed o safon uchel tra’n astudio gradd yn y brifysgol. 

Dyw’r chwiorydd ddim yr unig bobl i symud i ffwrdd o Gymru er mwyn chwarae pêl-droed, medd Indie. 

“Roedd rhai o fy ffrindiau wedi chwarae i dîm pêl-droed Cymru ac roedden nhw’n chwarae yna hyd nes y tîm dan-19. 

“Bellach mae rhai ohonyn nhw wedi symud i gynghreiriau yn Lloegr jyst oherwydd doedd ‘na ddim pont i helpu nhw ddatblygu i’r prif dîm.” 

Image
Indie a Mycah
Indie gyda'i chwaer, Mycah Morgan

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, “o ystyried cryfder gêm broffesiynol y menywod yn Lloegr,” maen nhw’n annog menywod i chwarae ar hyd llwybrau datblygu yno. 

Dyw hynny ddim yn annhebyg i’r hyn y maen nhw’n annog y bechgyn a’r dynion i'w wneud, ychwanegodd llefarydd. 

“Ar hyn o bryd ni all Cymdeithas Bêl-droed Cymru anwybyddu cryfder a niferoedd y gêm yn Lloegr, gan fanteisio ar hyn wrth i ni ddatblygu'r gêm ddomestig yng Nghymru.” 

Trwy Sefydliad Pêl-droed Cymru mae’r Gymdeithas yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi £4 miliwn i adnoddau pêl-droed merched a menywod ers 2022, yn ogystal â £4.5 miliwn pellach i ddatblygu caeau a mynediad iddynt. 

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi ymrwymo ac yn gweithredu er mwyn parhau i ddatblygu llwybrau a fydd yn helpu menywod a merched ffynnu yn y byd pêl-droed. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.