Teulu a sêr y byd pêl-droed yn ymgynnull yn angladd Diogo Jota a'i frawd
Mae rheolwr a chwaraewyr tîm pêl-droed Lerpwl ymhlith cannoedd o bobl sydd wedi ymgynnull ar gyfer angladd y pêl-droediwr Diogo Jota a’i frawd Andre Silva ym Mhortiwgal.
Bu farw'r tad i dri o blant, oedd yn 28 oed a'i frawd André Silva, 25 oed, mewn gwrthdrawiad car yn Sbaen ddydd Iau.
Roedd eu car Lamborghini wedi gwyro oddi ar ffordd yr A-52 yn ardal Zamora ar ôl i un o'r olwynion fyrstio am tua 00.40 amser lleol.
Yn dilyn gwasanaeth goffa ddydd Gwener yn nhref Gondomar, roedd angladd i’r ddau yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Roedd aelodau teulu’r brodyr, gan gynnwys Rute Cardoso, gwraig Diogo Jota, yn bresennol fore Sadwrn ar gyfer y gwasanaeth yn eglwys Igreja Matriz.
Roedd presenoldeb mawr o Glwb Pêl-droed Lerpwl hefyd wedi ymgynnull, gan gynnwys y rheolwr, Arne Slot, capten y tîm Virgil Van Dijk a nifer o chwaraewyr a swyddogion y clwb.
Roedd Virgil Van Dijk a’i gyd-chwaraewr Andy Robertson yn gafael mewn dwy dorch o flodau coch yn arddangos y rhifau 20 a 30 mewn gwyn, i ddynodi rhifau ar grysau Diogo Jota ac Andre Silva.
Fe wnaeth y chwaraewyr dderbyn cymeradwyaeth y dorf o gannoedd o alarwyr y tu allan i’r eglwys Igreja Matriz.
Hefyd yn bresennol roedd hyfforddwr tîm Portiwgal, Roberto Martinez a chwaraewr Manchester City, Ruben Dias.
'Sioc'
Dywedodd Arne Slot, fod yna “ymdeimlad llwyr o sioc” yn y clwb yn sgil marwolaeth Jota a oedd wedi priodi 11 diwrnod yn ôl.
“Mewn sawl ffordd, roedd yn haf perffaith i Diogo a’i deulu, sy’n ei gwneud hi’n fwy torcalonnus fyth y dylai ddod i ben fel hyn,” ychwanegodd Slot.
Roedd Jota yn rhan o garfan Lerpwl wnaeth ennill Uwch Gynghrair Lloegr tymor diwethaf a Chynghrair y Cenhedloedd UEFA gyda Phortiwgal.
Dywedodd cyd-chwaraewr Jota gyda Phortiwgal, Cristiano Ronaldo, nad oedd y newyddion "yn gwneud synnwyr”.
"Roeddem ni newydd fod gyda'n gilydd gyda'r tîm cenedlaethol, roeddet ti newydd briodi," meddai.
Fe wnaeth Ronaldo anfon ei gydymdeimladau at deulu Jota, ei wraig a'u plant, gan ychwanegu: "Dwi'n gwybod y byddi di gyda nhw bob amser."
Ddydd Mercher, cyhoeddodd Jota a Cardoso, 28, luniau a fideo o'u priodas, gyda'r geiriau: "Diwrnod na fyddwn ni byth yn ei anghofio."