Newyddion S4C

Esgobaeth Bangor: Honiad o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei gyfeirio at yr heddlu yn y gorffennol

Newyddion S4C

Esgobaeth Bangor: Honiad o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei gyfeirio at yr heddlu yn y gorffennol

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau iddyn nhw gyfeirio honiad o gam-drin plentyn yn rhywiol yn esgobaeth Bangor i'r heddlu yn 2020.

Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, maen nhw'n dweud iddyn nhw dderbyn adroddiad gan oedolyn bum mlynedd yn ôl o ymosodiad rhywiol honedig ddigwyddodd rai blynyddoedd ynghynt pan oedd yr achwynydd yn eu harddegau cynnar.

Maen nhw'n dweud i'w hadran ddiogelu gyfeirio'r honiad at yr heddlu.

Dywed yr Eglwys i'r achwynydd siarad â'r Eglwys ond na chymerwyd unrhyw gamau pellach gan nad oedd yr achwynydd am i'r mater fynd ymhellach.

Daw'r datgeliad diweddaraf wedi cyfnod cythryblus i'r Eglwys a'r Esgobaeth, sydd yn cynnwys ymddeoliad sydyn cyn-Archesgob Cymru Andy John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, ddydd Gwener diwethaf. Does dim awgrym bod Andy John ei hun wedi camymddwyn.

Cyhoeddwyd crynodeb dau adroddiad ddechrau mis Mai oedd yn amlinellu pryderon am gymylu ffiniau rhywiol, goryfed alcohol a gwendidau diogelu a llywodraethu yn esgobaeth a Chadeirlan Bangor.

Doedd yr Eglwys ddim am gyhoeddi'r adroddiadau llawn am resymau cyfrinachedd.

Fe ddaeth i'r amlwg yn ddiweddarach i chwe adroddiad digwyddiad difrifol gael eu cyfeirio at y Comisiwn Elusennau ynglŷn â Chadeirlan ac Esgobaeth Bangor dros gyfnod o ryw ddeunaw mis.

Image
Andy John
Fe wnaeth Andy John, Esgob Bangor, ymddeol fel Archesgob Cymru ddiwedd Mehefin. Does dim awgrym ei fod wedi camymddwyn

Diwygiadau

Yr wythnos yma, cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru y byddai cyfres o adolygiadau ac archwiliadau yn digwydd. Ddywedon nhw byddai hynny'n cynnwys adolygiad llywodraethiant o'r Eglwys yng Nghymru ac archwiliad o holl gadeirlannau'r wlad er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.

Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys wedi galw ar awdurdodau esgobaeth a Chadeirlan Bangor i gydymffurfio ag ystod eang o ddiwygiadau sylfaenol gan gynnwys ym meysydd rheoli ariannol, diogelu, adnoddau dynol a phrosesau ar gyfer chwythwyr chwiban.

Bydd Archwiliad Diogelu Allanol o holl gadeirlannau Cymru yn cael ei gomisiynu i sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.

Mae ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru hefyd wedi rhybuddio bod ariannu esgobaeth a Chadeirlan Bangor at y dyfodol yn "dibynnu'n llwyr" ar eu bod nhw'n hapus bod gweithdrefnau rheoli ac ariannu addas yn eu lle yn ogystal â gweithdrefnau gweinyddol i sicrhau llywodraethiant effeithiol.

Image
Rocio Cifuentes
Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru

'Cwestiynau'

Daw wrth i Gomisiynydd Plant Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i oruchwylio diogelu o fewn cyrff crefyddol.

Dywedodd Rocio Cifuentes wrth Newyddion S4C: "Mae'r achos hwn yn codi'r un cwestiynau rwy'i wedi eu codi droeon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch diffyg goruchwylio diogelu mewn cyrff crefyddol.

"Dydyn ni ddim yn hyderus bod y llywodraeth yn cymryd yr angen i gael corff cryfach o ddifrif.

"Ar hyn o bryd, does dim corff sydd a'r pwerau i ymyrryd mewn materion o ran diogelu mewn cyrff crefyddol. Does gan neb y pwerau rheiny ac mae hynny'n broblem."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gennym ddisgwyliadau clir y bydd sefydliadau yng Nghymru yn dilyn gweithdrefnau diogelu Cymru ac yn cofrestru pob honiad o gam-drin i’r awdurdodau priodol mewn da bryd.

"Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, ac mae disgwyl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan ar ein strategaeth deng mlynedd ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.