Newyddion S4C

Palestine Action i apelio'n erbyn cael eI ddynodi'n grŵp terfysgol

Palestine Action

Bydd mudiad Palestine Action yn mynd i'r Llys Apêl i ofyn am ganiatâd i herio penderfyniad barnwr yn yr Uchel Lys i wrthod cais i'w rhwystro dros dro rhag cael ei ddynodi'n grŵp terfysgol.

Gofynnodd Huda Ammori, cyd-sylfaenydd Palestine Action, i'r Uchel Lys rwystro'r Llywodraeth rhag gwahardd y grŵp dros dro fel sefydliad terfysgol, cyn her gyfreithiol bosibl yn erbyn y penderfyniad i'w wahardd o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Roedd y cam i ddod i rym am hanner nos ar ôl i farnwr yr Uchel Lys, Mr Ustus Chamberlain, wrthod cais Ms Ammori i atal y cam dros dro.

Ond, mae asiantaeth newyddion PA yn deall y bydd cyfreithwyr ar ran y grŵp yn gofyn i farnwyr apêl am ganiatâd i herio'r penderfyniad mewn gwrandawiad nos Wener.

Yn ei benderfyniad i wrthod y cais am atal y cam cyfreithiol dros dro, dywedodd Mr Ustus Chamberlain: “Rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw'r niwed a fyddai'n deillio pe bai'r cam dros dro yn cael ei wrthod, ond bod yr hawliad yn llwyddo yn ddiweddarach, yn ddigonol i orbwyso'r budd cyhoeddus cryf o gynnal y gorchymyn mewn grym.”

Yn fuan ar ôl i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi, dywedodd Ms Ammori y byddai’n “ceisio apêl frys i geisio atal hunllef dystopiaidd a grewyd gan y Llywodraeth”.

Ychwanegodd: “Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn rhuthro drwy weithredu’r gwaharddiad am hanner nos heno er gwaethaf y ffaith bod ein her gyfreithiol yn parhau a’i bod hi wedi bod yn gwbl aneglur ynghylch sut y bydd yn cael ei orfodi, gan adael y cyhoedd yn y tywyllwch ynghylch eu hawliau i ryddid barn a mynegiant ar ôl hanner nos heno pan ddaw’r gwaharddiad hwn i rym.

“Mae cannoedd o filoedd o bobl ledled y wlad wedi mynegi cefnogaeth i Palestine Action drwy ymuno â’n rhestr bostio, dilyn a rhannu ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol a llofnodi deisebau, ac mae llawer, gan gynnwys ffigurau eiconig fel Sally Rooney, yn dweud y byddant yn parhau i ddatgan ‘ni i gyd yw Palestine Action’ ac yn siarad yn erbyn y gwaharddiad hurt hwn, gan ddangos pa mor gwbl anymarferol fydd.”

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.